09 Mai 2025
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynnal digwyddiadau marcio beiciau am ddim unwaith eto yr haf hwn, gan annog mwy o bobl i gerdded, olwynio a beicio fel rhan o’u teithiau bob dydd.
Mae'r digwyddiadau, a gynhelir am y drydedd flwyddyn erbyn hyn, yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP). Hyd yma, mae dros 350 o feiciau wedi'u cofrestru â marc diogelwch a derbyniwyd dros 400 o ymatebion i arolwg teithio llesol TrC.
Mae TrC wedi ymrwymo i helpu sicrhau mai cerdded a beicio yw ffyrdd gorau pobl Cymru a’r Gororau o deithio dros bellteroedd byrrach. Mae annog llai o bobl i ddefnyddio ceir preifat a mwy o bobl i gerdded neu feicio, neu gyfuno’r dulliau teithio hyn â’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yn rhan hanfodol o newid ymddygiad pobl wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Gan gydnabod bod diogelwch beiciau yn rhwystr allweddol i newid ymddygiad, mae TrC wedi buddsoddi yn y pecynnau Cofrestru Beiciau i gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim mewn gorsafoedd, digwyddiadau a lleoliadau cymunedol dros yr haf. Caiff digwyddiad cyntaf 2025 ei gynnal ddydd Iau Mai 8fed yng ngorsaf Caerdydd Canolog rhwng 12:30-15:30. Bydd y digwyddiadau yn teithio o gwmpas gwahanol orsafoedd a lleoliadau ledled Cymru a’r Gororau tan fis Medi.
Mae TrC yn parhau â'i waith gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, sy'n cynnwys darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau teithio llesol.
Dywedodd Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC, Matthew Gilbert: “Rydym am i'n rhwydwaith trafnidiaeth yn y dyfodol ei gwneud hi'n haws i chi wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a chyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau cerbydau, ac rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno'r digwyddiadau hyn unwaith eto. Mae'n gyfle gwych i ni arddangos cyfleusterau teithio llesol lleol ar draws ein rhwydwaith. Mae cerdded a beicio wrth wraidd ein cynlluniau felly rydym hefyd eisiau clywed gennych am sut y gallwn ni – gan weithio gyda'n partneriaid – sicrhau mai teithio llesol yw eich dewis cyntaf ar gyfer gwneud teithiau byr o fewn eich cymunedau a byddem yn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg teithio llesol fel y gallwn ddeall y rhwystrau i hyn yn eich ardal chi.”
Dywedodd yr Arolygydd Alun Derrick o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: "Mae'n wych gweithio gyda TrC eto yr haf hwn, wrth i ni roi cyfle i deithwyr dderbyn marc diogelwch ar eu beiciau. Yn ogystal â hyn, gallant gwrdd â'n swyddogion a derbyn cyngor pellach ar atal troseddu. "Hoffwn hefyd atgoffa pobl i arbed y rhif 61016 yn eich ffôn, fel bod gennych chi'r rhif wrth law pe bai byth angen ein cymorth arnoch.”
I ddarganfod mwy am ddigwyddiadau Beicio TrC 2025, ewch i: https://dweudeichdweud.trc.cymru ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus a beic, ewch i: Teithio ar feic | TrC a Beiciau ar y trên | TrC