Skip to main content

Transport for Wales to use extra staff to tackle antisocial behaviour

27 Tach 2020

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio staff ychwanegol ar draws ei rwydwaith y penwythnos hwn yn dilyn cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae nifer y teithwyr wedi bod yn cynyddu ers i’r ‘cyfnod atal dros dro’ ddod i ben yng Nghymru ddydd Llun 9 Tachwedd, yn enwedig gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Gyda theithwyr yn teithio i’r dinasoedd a’r trefi i fanteisio ar y sêls cyn y Nadolig a chefnogwyr rygbi yn mynd i’r tafarndai i wylio Cymru yn chwarae Lloegr ddydd Sadwrn, disgwylir i nifer yr ymwelwyr gynyddu.  

Mae TrC a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw, cael cyngor ar deithio a defnyddio'r Gwiriwr Capasiti a lansiwyd yn ddiweddar i osgoi cyfnodau prysur.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Hoffwn ddiolch i’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n teithio ar ein trenau mor gyfrifol – yn ogystal â staff Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy’n sicrhau bod pob teithiwr yn cyrraedd pen ei daith yn ddiogel.

“Bydd cadw pellter wrth bobl eraill lle bo’n bosib a gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi’ch eithrio, yn helpu i atal y feirws ofnadwy hwn.”

Y penwythnos diwethaf, cafodd bron 200 o aelodau’r cyhoedd eu hatal rhag teithio gan staff TrC am beidio â gwisgo gorchudd wyneb, am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac am nad oeddent yn ffit i deithio.

Bu’n rhaid gofyn i fwy na 2,000 o bobl ar draws y rhwydwaith wisgo gorchudd wyneb, sy’n ofyniad cyfreithiol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC: “Mae rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn un o’r rhai mwyaf diogel yn y DU, diolch i waith caled TrC a staff yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac ymddygiad cyfrifol y mwyafrif helaeth o’n teithwyr.

“Gan fod nifer y teithwyr wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn anffodus rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd bach mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl yn gwrthod cydymffurfio â’r rheolau o ran gorchuddion wyneb.

“Hoffem dawelu meddwl ein cwsmeriaid ein bod wedi lleoli staff ychwanegol ar drenau ac mewn gorsafoedd, yn enwedig ar y penwythnos, gan helpu i gadw pawb sy’n defnyddio ein rhwydwaith yn ddiogel.

“Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, rydyn ni’n cyflwyno hyd yn oed mwy o fesurau i helpu pobl nad ydynt yn ffit i deithio am eu bod wedi yfed gormod o alcohol. Mae hyn yn cynnwys cynnig seibiant i bobl agored i niwed, staff i gynnig dŵr iddynt a’r defnydd o fannau gorffwys hyd nes eu bod yn ddiogel i deithio.”

Dywedodd Jon Cooze, Prif Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Bydd ein swyddogion a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn parhau i batrolio’r rhwydwaith rheilffyrdd, gan helpu staff y rheilffyrdd i atgoffa teithwyr am bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol a’r ffaith bod angen i’r rheini sy’n teithio wisgo gorchuddion wyneb.

“Rydym yn annog y cyhoedd i barhau i ymddwyn yn gyfrifol a chwarae eu rhan wrth helpu i amddiffyn eu hunain, a’i gilydd, trwy ddilyn y canllawiau a’r cyfyngiadau a nodwyd gan y Llywodraeth, yn ogystal â chydymffurfio â’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb.”

Mae rhagor o gyngor ar deithio ar gael yn www.trc.cymru/cy/deithion-saffach

Llwytho i Lawr