Skip to main content

Face coverings will be enforced on public transport

20 Awst 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn atgoffa cwsmeriaid bod angen iddyn nhw wisgo gorchudd wyneb ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus – os na fyddwch yn dilyn y rheolau ni fyddwch yn cael teithio ac mae’n bosibl i chi gael dirwy.

Mae'r rheini sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi gorfod gwisgo gorchudd wyneb ers 27 Gorffennaf a dros y pythefnos diwethaf mae staff Trafnidiaeth Cymru a swyddogion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi bod yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y polisi newydd.  Os nad oedd cwsmeriaid yn gallu egluro pam eu bod wedi cael eu heithrio o’r gofynion roeddent yn cael eu hannog i wisgo gorchudd wyneb er mwyn diogelu cwsmeriaid eraill a staff TrC.

Fodd bynnag, mae’r polisi nawr yn cael ei orfodi’n fwy llym a dros yr wythnos diwethaf roedd staff y rheilffyrdd wedi atal 500 o bobl rhag teithio.   

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi codi’r cyfyngiad a oedd yn golygu mai dim ond ar gyfer teithio hanfodol roedd modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau nawr. Mae rhai eithriadau fel plant dan 11 oed, pobl sy’n cael anawsterau anadlu, neu’r rheini sydd â salwch meddwl, nam neu anabledd.

Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i wisgo eu gorchudd wyneb cyn mynd i orsaf a bydd angen iddynt wneud hynny cyn mynd ar y trên. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf bod pobl yn defnyddio gorchudd wyneb tair haen.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth.  Ers 27 Gorffennaf rydym wedi bod yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid, yn egluro ac yn eu hannog gan ein bod yn cydnabod manteision gwisgo gorchuddion wyneb er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws.  Mae hyn yn ein helpu i gadw pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau’n ddiogel wrth i fesurau’r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

“Nid yw pawb yn cydymffurfio ar ein gwasanaethau ym mhob ardal felly rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd er diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr a chynyddu ein gweithgareddau gorfodi.  Mewn partneriaeth â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ni fydd y rheini sy’n peidio â dilyn y rheolau yn cael teithio.  Gallai hyn hefyd olygu y gofynnir i rai teithwyr adael y trên mewn gorsafoedd cyn eu gorsaf nhw ac mae’n bosibl iddyn nhw gael dirwy gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.”

Bydd arwyddion a rhubanau’n parhau i fod ar drenau ac yng ngorsafoedd Trafnidiaeth Cymru am gyfnod amhenodol.

Dywedodd Jon Cooze, Prif Arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yng Nghymru: “Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb priodol ar bob gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogelwch ychwanegol ar ben y gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr pan fydd hynny’n bosibl.

“Mae swyddogion yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar batrôl ar draws y rhwydwaith a byddant yn parhau i weithio gyda staff TrC i helpu i sicrhau bod pob cwsmer yn cael taith ddiogel a hyderus. Serch hynny rydyn ni’n barod ac yn benderfynol ein bod am ddefnyddio’r cosbau sydd ar gael yn y Rheoliadau Coronafeirws newydd pan na fydd pobl yn cydymffurfio neu pan fydd pobl yn diystyru’r rheolau hyn ar gyfer teithio’n saffach.”

Mae TrC yn gofyn i bob cwsmer gynllunio ei daith ymlaen llaw, cadw pellter cymdeithasol a pheidio â theithio os ydyn nhw’n teimlo’n sâl – mae’r holl gyngor ar deithio’n saffach ar gael yn https://trc.cymru/cy/deithion-saffach.

Mae TrC wedi cynyddu eu darpariaeth diogelwch i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig at ddibenion gorfodi, ac mae wedi ymrwymo hyd at £150,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer staff ychwanegol drwy gydol yr haf.