17 Chw 2022
Bydd holl wasanaethau rheilffordd Cymru yn cael eu gohirio ddydd Gwener 18 Chwefror oherwydd y rhybudd tywydd coch sydd mewn grym ar gyfer Storm Eunice.
Bydd gwasanaethau trên yn cael eu hatal am y diwrnod cyfan, gyda’r penderfyniad yn debygol o barhau dros y penwythnos fel bo modd gwirio dros 1000 milltir o drac a chlirio malurion a choed sydd wedi cwympo.
Gall gwyntoedd mor gryf â 100mya daro rhannau mwyaf gorllewinol Cymru, o amgylch arfordir Sir Benfro, tra gallai gwyntoedd o rhwng 60 ac 80mya effeithio ar rannau mewndirol a ledled Cymru a'r gororau.
Oherwydd lefel y tywydd eithafol a ddisgwylir, ni all gwasanaethau ailosod rheilffyrdd fynd rhagddo gan yr effeithir ar y rhwydwaith ffyrdd hefyd.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i deithwyr sydd â thocynnau ar gyfer yfory (18 Chwefror), neu dydd Sadwrn (19 Chwefror) i deithio heddiw neu dros y penwythnos, neu dydd Llun, os bydd gwasanaethau wedi ailddechrau erbyn hynny. Bydd tocynnau gwreiddiol yn ddilys ar gyfer y teithiau hyn.
Mae GWR hefyd yn caniatáu i deithwyr deithio ar ddiwrnodau amgen gyda thocynnau'n ddilys heddiw hyd at ac yn cynnwys dydd Llun 21 Chwefror.
Gall teithwyr Avanti West Coast sydd â thocynnau ar gyfer dydd Gwener ddefnyddio eu tocynnau heddiw neu ddydd Sadwrn 19 Chwefror.
Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ar y cyd â Network Rail a gweithredwyr trenau eraill gan fod diogelwch teithwyr a staff y rheilffordd o'r pwysigrwydd mwyaf.
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a'r Gororau: “Nid yw’r penderfyniad i gau’r rheilffordd dros dro yng Nghymru wedi’i wneud ar chwarae bach. Diogelwch teithwyr a staff yw ein prif flaenoriaeth.
“Mae disgwyl y bydd Storm Eunice yn dod â gwyntoedd cryf iawn o hyd at 100mya gyda hi ac mewn mannau, mae’n debygol iawn y bydd coed a malurion yn cael eu chwythu ar leiniau'r trenau.
“Mae’n ddrwg gennym am yr anghyfleustra y gall cau'r rheilffordd ei achosi a byddwn yn parhau i weithio’n galed, ynghyd â’n cydweithwyr yn y cwmnïau trenau eraill, i gael gwasanaethau trên yn ôl ar waith cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
“Cynghorir teithwyr sy’n bwriadu teithio dros y penwythnos yn gryf i wirio cyn teithio. Mae hyn gan ei bod hi bron yn amhosibl rhagweld beth fydd natur storm fel Storm Eunice a gall yr effaith a gaiff ar wasanaethau newid yn gyflym.”
Dywedodd Martyn Brennan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Mae diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn ganolog i’r hyn a wnawn. Am y rheswm hwn, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal holl wasanaethau TrC ddydd Gwener nes ei bod yn ddiogel i’w hailagor. Mae’r rhagolygon tywydd eithafol ar gyfer Storm Eunice yn peri pryder mawr, felly rydym yn cynghori pobl yn gryf i beidio â cheisio teithio yn ystod y cyfnod hwn gan na fydd gwasanaethau ar gael.
“I’r rhai sydd eisoes wedi prynu tocyn i deithio yn ystod Storm Eunice, gallant ddewis teithio heddiw, ddydd Iau 17eg, ddydd Sadwrn 19eg neu ddydd Sul 20fed. Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn yn y modd arferol. Hoffwn ddiolch i gwsmeriaid am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GWR Mark Hopwood: “Bydd cyfyngiadau cyflymder yn cael eu rhoi ar waith ar ein rhwydwaith. Er hyn, dim ond amodau ar lawr gwlad all bennu graddau’r cyfyngiadau hynny ac yn fwy na thebyg, byddan nhw’n newid drwy gydol y dydd.
“Byddwn yn parhau i redeg cymaint o drenau ag y gallwn ond dylai’r rhai sydd angen teithio fod yn ymwybodol y bydd yn rhaid i ni leihau nifer y trenau y gallwn eu rhedeg. Hefyd, bydd y daith yn cymryd mwy o amser a bydd y trenau y byddwn yn gallu eu rhedeg yn llawer prysurach na’r arfer.
“Dilynwch y cynghorion arferol a chofiwch wirio cyn teithio.”