23 Chw 2026
Mae parth fflecsi newydd sbon sy'n gwasanaethu Llanarmon, Sir Ddinbych wedi'i gyflwyno heddiw, gan ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth hyblyg, ar alw, i deithwyr Trafnidiaeth Cymru.
Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Sir Dinbych, mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio o amgylch anghenion cymunedau lleol ac mae'n cynnig mynediad gwell i drigolion at wasanaethau hanfodol, cyfleoedd siopau, addysg a chyflogaeth trwy gysylltu Llanarmon yn uniongyrchol â Rhuthun a'r Wyddgrug*.
Bydd parth Llanarmon yn darparu cysylltiadau uniongyrchol â rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach Gogledd Cymru. Bydd teithwyr yn gallu cysylltu â gwasanaeth T8 TrawsCymru, sy'n cynnig teithio cyfleus rhwng Corwen a Chaer.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio TrC: “Rydym wedi ymrwymo i helpu cymunedau gwledig i deimlo eu bod wedi’u cysylltu’n well. Mae parth fflecsi newydd Llanarmon yn rhoi mwy o ddewis, mwy o hyblygrwydd a ffordd fwy dibynadwy o deithio i bobl.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Dinbych i ddod â’r opsiwn newydd hwn i drigolion lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Sir Dinbych: “Mae’r gwasanaeth fflecsi newydd hwn yn atgyfnerthu trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ein cymunedau sy’n anos eu cyrraedd.
“Drwy gynnig model mwy ymatebol, rydym yn helpu trigolion i gyrraedd cyrchfannau allweddol yn haws.”
I archebu taith ar y gwasanaeth newydd, lawrlwythwch ap fflecsi neu ffoniwch y tîm ar 0300 234 0300. Gellir archebu teithiau ymlaen llaw neu ar y diwrnod, yn amodol ar argaeledd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 6 diwrnod yr wythnos, gydag oriau wedi'u teilwra i'r galw lleol.
* Nid oes modd teithio rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug, gan mai pwyntiau cysylltu yn unig yw'r arosfannau hyn.
Nodiadau i olygyddion
1. Bydd parth fflecsi newydd Llanarmon-yn-Iâl yn caniatáu i deithwyr deithio o fewn y parth neu i arhosfan bwrpasol yn Rhuthun neu'r Wyddgrug. Mae teithiau dychwelyd o'r arosfannau bwrpasol hyn yn ôl i'r parth hefyd yn bosibl.
2. I deithwyr sy'n dymuno teithio ymhellach i ffwrdd, neu'n uniongyrchol rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, mae gwasanaeth T8 TrawsCymru yn cynnig teithiau rhwng Caer a Chorwen.