04 Medi 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn falch o gyhoeddi lansiad bwydlen danteithion cŵn newydd - y tro cyntaf i gwmni trên yn y DU gyflwyno bwydlen o’r fath.
Gyda phoblogrwydd cynyddol cyrchfannau sy'n gyfeillgar i gŵn ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau, mae TrC wedi ehangu’r hyn a gynigir er mwyn darparu ar gyfer anghenion perchnogion cŵn ar wasanaethau rheilffordd penodol sy'n rhedeg rhwng gogledd a de Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â byrbrydau cŵn Dewkes, mae TrC yn cynnig opsiynau bwyd cyfleus a blasus i deithwyr a’u cymdeithion anwes, a chaiff yr holl ddanteithion eu gwneud gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o ansawdd uchel.
Mae’r amrywiaeth o fwyd cŵn y mae Dewkes yn ei gynnig yn bodloni cŵn o bob lliw a llun ar eu taith.
Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr ar drenau Trafnidiaeth Cymru:
"Gan fod modd cyrraedd cymaint o ardaloedd prydferth yng Nghymru a'r Gororau gan ddefnyddio gwasanaethau TrC, rydym yn falch iawn o gael croesawu'r teulu cyfan, gan gynnwys yr aelodau hynny sydd â phedair coes, ar ein trenau.
Trwy stocio byrbrydau cŵn Dewkes, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu rhywbeth i bawb.”
Dywedodd James Bygate, Rheolwr Gyfarwyddwr Dewkes:
"Rydym wrth ein bodd o gael cefnogi’r cyfnod newydd hwn o deithio, sy'n gyfeillgar i gŵn, yn ogystal â chyflawni ein nod, sef darparu byrbrydau sy’n faethlon ac yn iachus i gŵn cymdeithasol sy’n teithio ar hyd a lled y wlad.
Mae'r fenter arloesol hon nid yn unig yn gwella'r profiad teithio i berchnogion cŵn ond hefyd yn cefnogi busnesau lleol ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd gyda byrbrydau wedi'u lapio mewn deunyddiau pacio cynaliadwy, y gellir eu hailgylchu.
Nodiadau i olygyddion
Mae ein prif wasanaethau a weithredir gan ein trenau Dosbarth IV yn cynnig danteithion cŵn Dewkes rhwng Abertawe - Manceinion a Chaerdydd - Caergybi.
I weld pa wasanaethau sydd â bwytai ar y trên, ewch i’r Cynllunydd Teithiau a chwiliwch am drenau gyda thocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael arnynt.
Bydd cwsmeriaid sy'n teithio ar y trên yn gallu sganio cod QR ar eu sedd, dewis o'r ddewislen ac yna bydd gwesteiwr cwsmeriaid yn gwneud y gweddill.
Cwmni o Dde Cymru yw Dewkes sy'n enwog am ei ddanteithion cŵn cynaliadwy a blasus. Mae cynnyrch Dewkes yn darparu ar gyfer cŵn o bob lliw a llun, gan sicrhau bod rhywbeth i fodloni pob ci bach.
Mae Dewkes wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a ariennir drwy Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys mentora a chyngor arbenigol ar ddadansoddi a chynllunio'r farchnad, hyfforddi a datblygu system rheoli perthnasoedd cwsmeriaid.
Mae Dewkes yn falch o fod wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr fawreddog Farm Shop & Deli 2024. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymroddiad y brand i ddarparu cynnyrch o ansawdd uchel a chefnogi lleoliadau sy'n croesawu cŵn ledled y DU, gan ddathlu ymrwymiad parhaus Dewkes i ragoriaeth, cymuned, ac arloesi yn y sector anifeiliaid anwes. Mae TrC yn estyn croeso cynnes, Cymreig i'w holl deithwyr ac mae hyn bellach yn cynnwys y teithwyr hynny sydd â phedair coes.
Teithio ar y trên yw'r ffordd ddelfrydol o grwydro Cymru a thu hwnt, gyda'ch ci ffyddlon wrth eich ochr. Mae teithio’n gallu codi chwant bwyd arnoch, a phan fydd angen ychydig o fwyd ac egni arnoch chi, mae’n debygol y bydd angen yr un peth ar eich ci. Mae TrC yn falch iawn felly o gynnig danteithion naturiol o ansawdd uchel i'ch ci, o frand Cymreig, ac wedi’u lapio mewn pecynnau cynaliadwy ac ailgylchadwy.
Fe wnaeth Duke (Mascot Brand ac Arbenigwr Rheoli Ansawdd) fwynhau ei ddiwrnod allan ar y trên.
Mae gan fyrbrydau Dewkes gynhwysion naturiol syml, wedi'u creu'n benodol gydag iechyd, lles a maeth cŵn mewn golwg. Dysgwch fwy am yr ystod eang yma www.dewkes.co.uk