Skip to main content

Comms Design and Transport for Wales trial Request to Stop

23 Gor 2024

Mae Comms Design a Trafnidiaeth Cymru yn paratoi i dreialu system digidol a fydd yn gwella profiad teithwyr ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i weithrediadau trenau ar lwybrau rheilffyrdd gwledig a llwybrau dwysedd isel.

Bydd system Gorsaf ar Gais (Request to Stop - RtS) yn galluogi teithwyr i ofyn i’r trên alw mewn gorsaf ar gais, gan ddefnyddio system gyfathrebu ar y platfform sy'n anfon signal yn uniongyrchol at yrrwr y trên sy'n cyrraedd yr orsaf, gan eu hysbysu bod teithiwr yn aros i ddod ar y trên.

Bydd RtS yn cael ei dreialu yng ngorsaf Llanfairpwll a Thŷ Croes rhwng 23 a 24 Gorffennaf, wedi i’r system RtS gael ei chyflwyno eisoes ar Reilffordd y Gogledd Pell yn yr Alban gan ddefnyddio offer Radio Electronic Token Block (RETB).

Bydd RtS yng Nghymru yn defnyddio GSM ar gyfer y treial, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran lleoliad, ac yna bydd yn cael ei ddiweddaru i ddefnyddio GSM-R yn y dyfodol.

Dywedodd Mick Mason, Rheolwr Gweithrediadau Comms Design: "Rydym yn falch iawn o fod yn arwain ar y treial profi cysyniad hwn, gyda chefnogaeth yr Adran Drafnidiaeth ac Innovate UK.

"Rydym yn gyffrous ynglŷn â photensial y dechnoleg hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar system RtS sy'n nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd gwledig yng Nghymru.

"Credwn fod gan yr arloesedd hwn y potensial i wella profiad teithwyr yn sylweddol, yn ogystal â sicrhau arbedion sylweddol mewn amser, cost a charbon."

Mae RtS yn cyflwyno gwelliannau sylweddol i gydnerthedd amserlenni, effeithlonrwydd a diogelwch teithwyr o'i gymharu â gorfod gofyn i dren stopio â llaw.

Mae cael gwared ar yr angen i drên arafu ac yna cyflymu eto pan nad oes teithwyr yn aros amdano yn cynnig buddion sylweddol o ran amser a’r defnydd o danwydd, gan arbed hyd at 6 litr o danwydd a 70 eiliad bob tro mae stop diangen i drên disel aml-uned yn cael ei osgoi.

Dywedodd Teleri Evans, Rheolwr Strategaeth Gwybodaeth i Gwsmeriaid: "Bu diddordeb sylweddol gan staff a rhanddeiliaid ym mhrosiect RTS Cymru, felly rwy'n edrych ymlaen at dreialu'r unedau yng Ngogledd Cymru gyda Comms Design, a chael adborth gan ein cwsmeriaid, aelodau o'r gymuned a’n rhanddeiliaid ynglŷn â gorsafoedd Llanfairpwll a Thŷ Croes.

"Credwn y bydd technoleg RTS yn gwella profiad y cwsmer yn ddramatig ac yn cynyddu nifer y cwsmeriaid o'n gorsafoedd gwledig. Rydym yn gweld budd sylweddol i gwsmeriaid o ran gallu gofyn am stop trwy wasgu botwm heb yr angen i roi gwybod i’r gyrrwr â llaw, yn enwedig i'r rhai sy'n gafael mewn pramiau, bygis, cadeiriau olwyn a beiciau neu'n methu â gwneud cais â llaw am resymau iechyd."

Cyflwynwyd cyllid ar gyfer y prosiect fel rhan o gystadleuaeth yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ac Innovate UK First of Kind (FOAK) i helpu i ddod â thechnolegau newydd i ddiwydiant y rheilffyrdd.

Llwytho i Lawr