13 Mai 2026
Bydd teithwyr ledled gogledd Cymru a gorllewin Cymru yn elwa o gynnydd mewn gwasanaethau rheilffordd wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) baratoi i gyflwyno amserlen newydd o ddydd Sul 17 Mai.
Mae hwn yn newid mawr i amserlen y rheilffordd ar gyfer Gogledd Cymru, gan ddod â chapasiti ychwanegol a mwy o wasanaethau.
Yng ngorllewin Cymru, bydd trenau ychwanegol ar waith dros fisoedd yr haf, gan gynnwys ar lwybrau gwyliau ac ar ddydd Sul, gan gefnogi’r economi dwristiaeth leol.
Bydd gwasanaethau ar Linell Arfordir Gogledd Cymru yn cynyddu tua 50%, gan gefnogi'r galw cynyddol am deithio cynaliadwy wrth gryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau.
Bydd teithwyr yn elwa o batrwm safonol bob awr a gyflwynir ar lwybrau allweddol i'r gogledd a'r gorllewin o Amwythig (ac eithrio Wrecsam a Bidston), gan wneud cynllunio teithiau'n haws.
Bydd y newidiadau’n arwain at gynnydd sylweddol yn amlder a chapasiti trenau rhwng Caer a Chyffordd Llandudno, un o rannau prysuraf rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.
I gefnogi'r cynnydd hwn mewn gwasanaethau, mae Network Rail yn gosod pontydd troed newydd ym Mhrestatyn a Phensarn, i gymryd lle croesfannau rheilffordd risg uchel - gan ddarparu llwybr diogel a di-risiau ar draws y rheilffordd.
Mae'r newid amserlen yn cyd-daro â chyflwyno talu wrth fynd yng ngogledd Cymru ar 18 Mai. Bydd y dull talu digyswllt tapio i mewn a thapio allan yn cwmpasu 15 gorsaf rhwng Wrecsam Cyffredinol a Bidston, gan gynnig ffordd fwy hyblyg a chyfleus o deithio.
Mae hyn yn adeiladu ar gyflwyno talu wrth fynd yn llwyddiannus yn ne-ddwyrain Cymru a bydd yn gwneud teithio ar y trên yn symlach ac yn fwy hygyrch, gan sicrhau bod cwsmeriaid bob amser yn talu'r pris gorau.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Dim ond ychydig ddyddiau sydd cyn cyflawni gwelliant mawr i wasanaethau rheilffordd fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru. Bydd yr amserlen newydd yn dod â threnau amlach a chysylltiadau gwell i’n cwsmeriaid yng ngogledd a gorllewin Cymru.
“Mae’r newidiadau hyn yn gam sylweddol ymlaen, gydag amserlen symlach a mwy cyson yn ogystal â mwy o gapasiti ar draws rhai o’n llwybrau prysuraf. Ochr yn ochr â chyflwyno talu wrth fynd, rydym yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddewis y rheilffordd a theithio’n gynaliadwy.”
Mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth gyffredin i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail. Cyn y newid i amserlen Arfordir Gogledd Cymru, mae Network Rail wedi cyflawni cyfres o welliannau diogelwch i groesfannau rheilffordd, gan gynnwys cau croesfannau dros dro a chyflwyno llwybrau dargyfeirio yn Sandy Lane a Beverley Drive, stiwardio croesfannau tymhorol ym Mhen Uchaf a Thŷ Gwyn, Goleuadau Stopio newydd yn Fflint Marsh, ac uwchraddiadau pellach yng nghroesfannau Stokyn Lodge a Fishpool Farm.
Gyda gwasanaethau amlach yn gweithredu ar draws y rhwydwaith, atgoffir cwsmeriaid a'r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol wrth groesfannau rheilffordd.
Dywedodd cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Nick Millington: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ers 18 mis i baratoi'r rheilffordd i ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn, sy'n cefnogi mwy o deithiau carbon isel, cysylltedd gwell ar gyfer cyflogaeth a thwristiaeth, sy’n helpu economïau lleol i dyfu.
“Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth o hyd wrth i ni gefnogi’r newidiadau hyn a groesewir ar draws gogledd a gorllewin Cymru. Gyda mwy o drenau’n rhedeg, rydym yn gofyn i bawb aros yn wyliadwrus, yn enwedig wrth groesfannau rheilffordd ac i gymryd gofal ychwanegol ger y rheilffordd.
"Drwy gydweithio â Trafnidiaeth Cymru a'n teithwyr, gallwn sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i fod yn ddiogel ac yn ddibynadwy i bawb".
Cynghorir cwsmeriaid i wirio cyn teithio, gan y bydd rhai patrymau galw yn newid ac efallai y bydd trenau'n stopio mewn gorsafoedd gwahanol i'r rhai o'r blaen. Mae hyn yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy'n gwneud cysylltiadau â gwasanaethau gweithredwyr trên eraill, a allai fod yn addasu eu hamserlenni hefyd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni
Nodiadau i olygyddion
Newidiadau allweddol
Arfordir Gogledd Cymru a’r Gororau
- Bydd trenau o Faes Awyr Manceinion i Landudno nawr yn gwasanaethu Caergybi yn lle, gan wella cysylltiadau â gogledd-orllewin Lloegr a gwella cysylltiadau fferi i Iwerddon o Fanceinion.
- Mae'r gwasanaethau ar wahân, bob awr, rhwng Wrecsam a Chaer a rhwng Caer a Crewe yn cael eu cyfuno'n un gwasanaeth drwodd.
- Bydd y gwasanaeth rhwng Lerpwl a Chaer yn cael ei ymestyn i Landudno, gan gynnig cyfleoedd teithio uniongyrchol newydd.
- Bydd y gwasanaeth rhwng Birmingham a gogledd Cymru (gan gynnwys o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham) - bob dwy awr ar hyn o bryd - yn rhedeg i Gyffordd Llandudno ac oddi yno, nid Caergybi.
- Bydd patrwm gwasanaeth newydd yn gwella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor, gan gefnogi cyflogaeth leol a thwf economaidd.
- Bydd gorsaf Y Fali yn dod yn alwad orfodol ar bob gwasanaeth perthnasol, gan helpu i roi mwy o hyder i gwsmeriaid wrth deithio o'r orsaf hon.
Gorllewin Cymru
- Bydd trenau ychwanegol ar waith hefyd ar lwybrau prysur yn ystod y gwyliau fel rhwng Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod tan fis Medi, a threnau ychwanegol ar ddydd Sul ym mis Awst a mis Medi.