04 Rhag 2024
Cawl llysiau, twrci Cymreig wedi'i stwffio a phwdin Nadolig traddodiadol gyda saws brandi i gyd i'w gweini ar rai o drenau Trafnidiaeth Cymru y Nadolig hwn.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dod ag ysbryd y Nadolig i’r rheilffordd gyda’i fwydlen Nadolig blasus ei hun.
Rhwng dydd Llun, 2 Rhagfyr a dydd Gwener, 20 Rhagfyr, gall teithwyr ar wasanaethau rheilffordd dethol sy’n rhedeg rhwng gogledd a de Cymru fwynhau pryd tri chwrs wedi’i goginio gan gogyddion ar fwrdd trenau TrC.
Mae’r fwydlen yn cynnig amrywiaeth hyfryd o brydau tymhorol i deithwyr, gan gynnwys cawl llysiau tymhorol wedi’i wneud â llaw, parsel twrci Cymreig wedi’i stwffio a’i rostio, a phwdin Nadolig traddodiadol wedi’i weini â saws brandi cyfoethog.
Mae’r bwydlen wedi’u crefftio gan ddefnyddio’r cynnyrch Cymreig gorau, gan sicrhau profiad bwyta gwirioneddol ddilys a blasus.
Dywedodd Paul Otterburn, Rheolwr Gweithrediadau Arlwyo Trafnidiaeth Cymru:
“Mae cymaint i’w ddarganfod ar draws ein rhwydwaith dros yr ŵyl. Mwynhewch brofiad Nadoligaidd llawn gyda'n bwydlen Nadolig.
“P’un a ydych chi’n teithio i farchnadoedd Nadolig neu’n ymweld â theulu a ffrindiau, mae ein bwydlen Nadolig yn ffordd berffaith o ddathlu’r ŵyl.
“Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i ymuno a rhannu ysbryd yr ŵyl gyda chi”
Nodiadau i olygyddion
Mae ein gwasanaeth o'r radd flaenaf gydag opsiynau bwyty yn rhedeg ar ein trenau Mark IV rhwng Abertawe - Manceinion a Chaerdydd - Caergybi.
I weld pa wasanaethau sy'n cynnwys bwyta fewn, ewch yma a chwiliwch am drenau gyda thocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael.
Bydd cwsmeriaid sy'n teithio ar y trên yn gallu sganio cod QR ar eu sedd, dewis o'r ddewislen a bydd ei’n gwesteiwr cwsmeriaid yn gwneud y gweddill.