16 Ion 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i fod yn rhan o’r prosiect buddsoddi a fydd yn trawsnewid y sector trafnidiaeth.
Yn dechrau ym mis Ionawr, bydd Busnes Cymru yn cynnal gweithdai am ddim mewn gwahanol fannau ar draws y wlad, gan helpu i roi arweiniad i fusnesau bach a chanolig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gydag ef i wella cysylltedd trafnidiaeth a sicrhau manteision ehangach i economïau a chymunedau Cymru.
Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd. Byddant yn gyfle i fusnesau bach a chanolig edrych yn fanylach ar y gofynion hyn a rhoddir cyngor sylfaenol iddynt, gan wella’u gobeithion o ennill y tendrau.
Bydd y gweithdai ‘Hanfodion Adnoddau Dynol’ yn cyflwyno’r cefndir i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i helpu busnesau bach a chanolig i ymateb i Gwestiynau Cyn-gymhwyso’r tendr ar y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bydd y gweithdy ‘Hanfodion Cynaliadwyedd’ yn canolbwyntio ar faterion cynaliadwyedd, yn cynnwys lleihau gwastraff i’r eithaf, gofalu am goedwigoedd a datgarboneiddio.
Dywedodd Howard Jacobson, Cynghorydd Tendro, Busnes Cymru:
“Mae Busnes Cymru wedi creu cynllun i gynghori a helpu busnesau ym mhob cwr o Gymru i fod yn ‘Addas i Dendro’ a gallu manteisio ar y cyfle cyffrous yma yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru’n gallu cymryd rhan yn y gwaith o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau a bydd Busnes Cymru’n cyflwyno gweithdai wedi’u cyllido’n llawn a chefnogaeth gynghori i gynorthwyo busnesau bach a chanolig ar bob lefel gyda’r broses dendro.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £5 biliwn yn y Sector Trafnidiaeth yng Nghymru dros y pymtheg mlynedd nesaf. Rydym ar ddechrau siwrnai gyffrous iawn ac rydym am i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru fod yn rhan o’r siwrnai honno ac elwa o’r buddsoddiad.
Mae gweithdai Busnes Cymru yn darparu help ac arweiniad i fusnesau bach a chanolig mewn perthynas â’r broses dendro a byddant yn help iddynt wella ansawdd eu cais.
Rydyn ni yn Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn modd sy’n cyd-fynd yn llwyr â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac mae’r gweithdai hyn yn dangos ein hymroddiad i ddatblygu economaidd-gymdeithasol ledled Cymru. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddod i'r gweithdai.”