Skip to main content

Business Wales TfW Workshops

11 Ebr 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i dendro am fusnes yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.

Rydym yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gyda ni nid yn unig i wella cysylltedd trafnidiaeth, ond hefyd i ddarparu manteision ehangach i gymunedau Cymru.

Mae ein hymagwedd gynaliadwy a moesegol yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor. Yn unol ac amcanion Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae gan TrC amrywiaeth o ofynion yn y gadwyn gyflenwi.

Yn 2019, bydd busnes Cymru yn darparu gweithdai yn rhad ac am ddim fydd yn canolbwyntio ar adnoddau dynol a Chynaliadwyedd, gan edrych ar y gofynion hyn yn fanylach er mwyn helpu busnesau bach a chanolig Cymru i wella eu siawns o ennill y tendrau hyn.

Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru.

  • Prifysgol De Cymru-Cyfnewid (adeilad Aberhonddu), Pontypridd, CF37 1DL –Ebrill 17 2019, 09:15-16:00
  • Busnes mewn ffocws (Bae Caerdydd), Caerdydd, CF10 5LE –Ebrill 30 2019, 09:15-16:00
  • Busnes mewn ffocws (Parc Bocam), Pencoed, CF35 5LJ –Mai 14 2019, 09:15-16:00
  • Busnes mewn ffocws (Casnewydd), Casnewydd, NP20 2AH –Mai 21 2019, 09:15-16:00