Skip to main content

Smile! You’re on CCTV: Investment at Abergavenny Station gets underway

12 Tach 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi dechrau ar waith yn gosod system teledu cylch cyfyng newydd sbon a Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd sbon yng ngorsaf y Fenni sy’n adeilad rhestredig Gradd II.  Bydd y gwaith yn parhau tan fis Chwefror 2022.

Mae'r buddsoddiad hwn yng ngorsaf y Fenni yn rhan o Weledigaeth Gwella Gorsaf gwerth miliynau o bunnoedd TrC, i sicrhau bod pob gorsaf ar draws ei rhwydwaith yn lleoedd diogel.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwr Gee Communications Ltd.  Am y tro cyntaf, bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ar gyfer yr orsaf gyfan gan gynnwys y meysydd parcio a bydd Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd yn cael eu gosod ar y ddau blatfform, yr ystafelloedd aros a'r swyddfa archebu.  Unwaith bydd y system newydd yn weithredol byddant yn darparu gwybodaeth cyrraedd ac ymadael gyfredol mewn amser real i gwsmeriaid.   Mae'r Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer yn cael eu hariannu gan Network Rail.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gorsafoedd TrC, Andrew Moore:

“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid ac rydyn ni'n gwybod nid yn unig eu bod nhw eisiau gorsafoedd sy'n groesawgar a deniadol, ond maen nhw hefyd eisiau gorsafoedd diogel. 

“Bydd teledu cylch cyfyng yn gweithredu fel adnodd ataliol a defnyddiol pan fydd ei angen a bydd y Sgriniau Gwybodaeth Cwsmer newydd ar gael 24/7 gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i gwsmeriaid.  Bydd y ddau ychwanegiad o fudd gwirioneddol i'r orsaf a'i chwsmeriaid.

“Mae'r buddsoddiad hwn yng ngorsaf y Fenni yn un pwysig a fydd yn helpu i gyflawni'r nod hwn fel rhan o'n Gweledigaeth Gwella Gorsaf gwerth miliynau o bunnoedd.  Byddwn, dros y blynyddoedd nesaf, yn buddsoddi er mwyn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.”

Hoffai TrC ddiolch i'r gymuned leol ac i gwsmeriaid am eu dealltwriaeth wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo ac ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall ei achosi.