28 Awst 2025
Mae buddsoddiad sylweddol mewn cysgodfannau newydd i gwsmeriaid ar waith mewn gorsafoedd yng ngogledd Cymru a Wirral, fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru.
Mae disgwyl i saith gorsaf ar y llinell rhwng Wrecsam a Bidston elwa o wariant o fwy na £400,000 rhwng nawr a mis Hydref.
Mae’r buddsoddiad yn cynrychioli gwelliant sylweddol yn y cyfleusterau i gwsmeriaid sydd yn ein gorsafoedd, sy’n dilyn gwelliannau tebyg yn ne a gorllewin Cymru dros y 18 mis diwethaf.
Caiff y gwaith ei gyflawni ar gyfer Trafnidiaeth Cymru (TrC) gan gontractwyr RWS a disgwylir ei fod yn cael ei gwblhau’n barod ar gyfer yr hydref.
Mae'r gwaith yn rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru, y weledigaeth sy'n anelu at ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig gyda gwasanaethau aml, ar gyfer Gogledd Cymru, gyda'r Metro wrth ei wraidd, gan adeiladu ar y buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ledled Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Trwy Rwydwaith Gogledd Cymru, byddwn yn trawsnewid teithio i bobl Gogledd Cymru a’i chymunedau ar y ffin. Mae’n wych gweld rhai o’r prosiectau uniongyrchol yn dechrau fel adnewyddu’r gorsafoedd ar hyd llinell Wrecsam Bidston, y byddwn yn ei hailenwi’n llinell Wrecsam i Lerpwl.
“Gyda disgwyl i'r gwasanaeth bws T51 ddechrau’r mis nesaf, a chynlluniau i gynyddu amlder trenau ar brif reilffordd Gogledd Cymru yn ogystal â dyblu amlder gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer, mae newidiadau cyffrous o’n blaenau.”
Dywedodd Rheolwr Prosiectau TrC, Laurie Klimowich y byddai’r cynllun yn “welliant mawr i gwsmeriaid.”
Dywedodd hi: “Braf yw darparu’r cynllun hwn ar un o’n llinellau allweddol a fydd yn hanfodol i ddatblygiad Rhwydwaith Gogledd Cymru.
“Bydd y cysgodfannau newydd yn fodern gyda thri neu bedwar bae â digonedd o fannau i eistedd yn ogystal â lle ar gyfer cadeiriau olwyn.
“Roedd yr hen gysgodfannau wedi gwneud jobyn da ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y buddsoddiadau hyn ar draws ein rhwydwaith a bydd hyn yn welliant mawr er lles ein cwsmeriaid.”
Dyma’r gorsafoedd sy’n derbyn y buddsoddiad:
- Wrecsam Cyffredinol
- Yr Hôb
- Pen-y-ffordd
- Penarlâg
- Pont Penarlâg
- Neston
- Upton
Lle’n bosib, bydd TrC yn ceisio ail-ddefnyddio hen gysgodfannau yn fewnol neu mewn cymunedau os ydynt mewn cyflwr rhesymol.
Yn ddiweddar, roedd hen gysgodfannau yn ne Cymru wedi cael eu symud i ddepo newydd TrC yn y Barri er mwyn rhoi cysgod ychwanegol i gydweithwyr a oedd yn gweithio tu allan.