Skip to main content

£15m investment in Transport for Wales trains

09 Maw 2021

BYDD MWY o seddi a gwell trenau ar gael i deithwyr sy’n defnyddio rhwydwaith Cymru a’r Gororau o’r mis hwn ymlaen fel rhan o fuddsoddiad gwerth £15m gan Trafnidiaeth Cymru.

Dechreuwyd defnyddio’r Class 769 pedwar cerbyd diweddaraf – sy’n cynnig mwy o gapasiti, mwy o le a gwell hygyrchedd – drwy’r dydd ddiwedd mis Chwefror a bydd y cerbyd Class 150 cyntaf ar ei newydd wedd yn gadael depo TrC yn Nhreganna yr wythnos hon yn barod i’w ddefnyddio ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Maent yn rhan o fuddsoddiad ehangach o dros £15m i adnewyddu trenau i gwsmeriaid, sy’n cynnig mwy o seddi a gwell hygyrchedd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Roedd gwella ansawdd ein trenau yn gymhelliant mawr i’n buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd drwy Trafnidiaeth Cymru.

“Er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid cael gwasanaethau cyfleus a dibynadwy, ond hefyd trenau a gorsafoedd o ansawdd uchel sy’n gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn fwy deniadol i’w ddefnyddio. Felly, mae’n newyddion da iawn i weld y cynnydd hwn.”

Bydd TrC yn cyflwyno naw trên Class 769 i gyd. Mae dau drên eisoes yn cael eu defnyddio bob dydd a bydd mwy yn cael eu hychwanegu drwy gydol gweddill 2021.

Byddant yn cael eu defnyddio rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni i ddechrau, gan stopio mewn nifer o drefi ar hyd y ffordd gan gynnwys Caerffili, Ystrad Mynach a Bargoed. Bydd y trenau Class 769, a elwir yn drenau Flex, yn teithio hyd at Benarth pan fydd mwy o drenau ar waith yn ddiweddarach eleni.

Mae TrC hefyd yn gwneud gwaith adnewyddu sylweddol ar ei fflyd o drenau Sprinter Class 150 sy’n rhedeg ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Bydd pob un o’r tri deg chwech o drenau dau gerbyd yn cael eu hadnewyddu a’u moderneiddio’n llwyr yn ogystal â chael lifrai newydd TrC ar y tu allan.

Byddwn yn adnewyddu gorchudd y seddi ac yn gosod arwyddion newydd ar gyfer seddi â blaenoriaeth a lle i gadeiriau olwyn a beiciau. 

Ychwanegodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth yn TrC: “Mae ein rhaglen drawsnewid yn mynd rhagddi a bydd y trenau Flex newydd yn cynnig mwy o seddi, mwy o le a gwell hygyrchedd.  Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn ein tri deg chwech o drenau Sprinter Class 150 i wella profiad cwsmeriaid ledled Cymru a’r Gororau.

“Rydyn ni’n dal i wynebu heriau anferth o ganlyniad i’r pandemig a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn ceisio darparu rhagor o le a seddi ar ein trenau, yn ogystal ag adnewyddu’r dodrefn mewnol.

“Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr ac rydyn ni’n buddsoddi ar gyfer y dyfodol pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio. Ar hyn o bryd, hoffwn ategu neges Llywodraeth Cymru, sef mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phan nad oes dewis arall ar gael.”