10 Awst 2023
Dyna’r geiriau a ddywedodd mam un o anfonwyr Caerdydd wrtho yn ôl yn 1973 pan oedd yr anfonwr yn 16 oed. Ond 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae David “Dave” Covington yn dangos mai dyma’r penderfyniad iawn iddo.
Ar ôl dathlu’r garreg filltir ym mis Gorffennaf, dywed Dave ei fod yn caru ei swydd gymaint ag erioed.
“Fy nghydweithwyr a helpu’r cwsmeriaid rwy’n ei garu fwyaf,” meddai Dave, 66.
“Rydw i wedi gwneud ffrindiau gwych yma. Alla i ddim credu ei bod wedi bod yn 50 mlynedd. Rydw i’n dal i allu cofio fy niwrnod cyntaf. Pan adawais i’r ysgol, roedd Mam wedi dweud ‘beth bynnag a wnei di, paid ag ymuno â’r diwydiant rheilffordd’!”
Ar ôl ymuno fel dyn rheilffordd iau ym mro ei febyd, Caint, ym mis Gorffennaf 1973, bu Dave yn gweithio mewn nifer o swyddi, gan gynnwys treulio chwe blynedd fel giard ar South Eastern Railway.
Yn un o gefnogwyr brwd tîm pêl-droed Gillingham, byddai’n teithio ar hyd a lled y DU yn aml i ddilyn ei dîm. Ond newidiodd cwrs ei fywyd mewn un digwyddiad pêl-droed yn ne Cymru.
“Roedden ni wedi mynd i ddigwyddiad pêl-droed yng Nghaerdydd ac roedden ni’n feddw iawn cyn dal y bws adref,” eglurodd Dave.
“Erbyn y diwedd, fe wnes i gwrdd â merch o Gymru yno ac rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd ers hynny!”
Symudodd Dave o Gaint i Borth yn y cymoedd i barhau â’i yrfa ar y rheilffyrdd wrth iddo setlo i fywyd teuluol yn ôl ym 1985. Byddai’n treulio sawl blwyddyn yn yr orsaf cyn symud i Gaerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog yn ddiweddarach yn y 1990au.