19 Tach 2026
Mae gweithredwyr trafnidiaeth yn atgoffa cefnogwyr rygbi i gynllunio ymlaen llaw wrth i Gymru groesawu Awstralia ar gyfer gêm nos Sadwrn.
Mae camau grŵp Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn dod i ben gyda’r gic gyntaf am 20:10 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Bydd Great Western Railway (GWR) a Trafnidiaeth Cymru (TrC) ill dau yn darparu trenau ychwanegol ar draws y rhwydwaith, ynghyd â chynlluniau ychwanegol ar gyfer rheoli torfeydd, er mwyn sicrhau bod cefnogwyr yn parhau i symud yn ddiogel ac yn effeithlon ar ôl y chwiban olaf.
Ar ôl y gêm, bydd GWR yn rhedeg gwasanaethau i Abertawe, Bryste a Swindon. Oherwydd yr amser cychwyn hwyr, ni fydd unrhyw wasanaethau o Gaerdydd Canolog yn parhau ymlaen i Lundain Paddington.
Mwynhaodd torf o fwy na 55,000 fuddugoliaeth anhygoel Cymru o 35-28 yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn – eu buddugoliaeth gyntaf dros yr All Blacks ers 73 mlynedd – sydd wedi arwain at gynnydd sydyn mewn gwerthiant tocynnau cyn y gêm yn erbyn y Wallabies.
Gyda dros 100,000 o deithwyr wedi teithio i mewn ac allan o Gaerdydd ar gyfer y ddwy gêm gyntaf (Cymru v Japan a Chymru v Seland Newydd), disgwylir i'r gwasanaethau fod yn brysur unwaith eto.
Bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol y Frenhines, gan ddechrau am 21:30.
Bydd teithwyr sy'n teithio ar linellau'r Cymoedd neu linell Bro Morgannwg yn cael eu cyfeirio at orsaf Caerdydd Heol y Frenhines. Bydd yr holl giwiau eraill, gan gynnwys y rhai ar gyfer gwasanaethau i Lynebwy a Maesteg, a threnau GWR i Abertawe, Bryste a Swindon, yn sgwâr gorsaf Caerdydd Canolog.
Bydd ciw hygyrchedd ar gael yn y ddwy orsaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid GWR, Rachel Geliamassi: “Roedd buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn erbyn yr All Blacks yn bleser i’w gwylio ac roeddem yn falch o allu helpu cefnogwyr i gyrraedd adref ar ôl y gêm.”
Gobeithio y gallant ailadrodd y perfformiad hwn ddydd Sadwrn. Argymhellir yn gryf bod cefnogwyr sy'n teithio ar wasanaethau GWR i Gaerdydd Canolog yn archebu eu seddi ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.
“Oherwydd yr amser cychwyn hwyr, ni fyddwn yn gallu cludo cefnogwyr yr holl ffordd yn ôl i Lundain. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion y daith ac yn gadael digon o amser i fynd ar y trenau’n ddiogel. Cofiwch y bydd y trenau’n hynod brysur yn ystod y cyfnod cyn y gic gyntaf ac yn syth ar ôl y gêm.”
Georgie Porter, Pennaeth Cynllunio a Chyflawni Digwyddiadau yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn gyffrous i groesawu cefnogwyr yn ôl i Gaerdydd ddydd Sadwrn yma ac rydym wedi ychwanegu capasiti ychwanegol ar draws ein rhwydwaith i sicrhau bod pawb yn gallu teithio.”
"Oherwydd y gic gyntaf hwyr am 20:10, bydd trenau a gorsafoedd yn brysur iawn; felly, cynlluniwch ymlaen llaw, gwiriwch yr amser ar gyfer y trên olaf adref a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â’r ciw cywir naill ai yng Nghaerdydd Canolog neu Gaerdydd Heol y Frenhines.
"Bydd ein staff ar gael drwy gydol y nos; dangoswch amynedd a pharch tuag atynt wrth iddynt weithio i sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel."
Dywed Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality: “Rydym wedi cael dau benwythnos gwych o rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd, ac roedd buddugoliaeth hanesyddol y penwythnos diwethaf yn erbyn yr All Blacks yn wirioneddol fythgofiadwy.”
Wrth i ni edrych ymlaen at gêm olaf Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn Stadiwm Principality, mae ein neges i’r cefnogwyr yn parhau i fod yr un fath: cynlluniwch eich teithiau i’r stadiwm ac oddi yno yn ofalus a gwnewch ddefnydd o’n canllaw i gefnogwyr yn ogystal â chyngor teithio ein partneriaid trafnidiaeth.
“Gan ddisgwyl torf enfawr arall, rydym yn annog cefnogwyr i gyrraedd yn gynnar ar gyfer yr anthemau, wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn sy’n addo bod yn achlysur cofiadwy arall.”
Atgoffir teithwyr i deithio'n gyfrifol; gallai unigolion sydd wedi meddwi'n drwm gael eu gwrthod rhag teithio, er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch eraill.
Nodiadau i olygyddion
- Gan nad yw'r lle yng nghefn gorsaf Caerdydd Canolog ar gael mwyach – oherwydd y gwaith sy’n cael ei wneud gan TrC i baratoi’r safle ar gyfer prosiect gwella gorsaf Caerdydd Canolog – mae TrC wedi bod yn cyfeirio pob teithiwr ar linellau'r Cymoedd a Bro Morgannwg i orsaf Caerdydd Heol y Frenhines ar ôl pob digwyddiad yn Stadiwm Principality.
- Gweithredwyd y broses hon am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2026 ar gyfer gêm y Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Eidal, ac ers hynny mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer pob digwyddiad proffil uchel yn y ddinas.