25 Tach 2026
Mae canlyniadau cyntaf yr Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru newydd (ATCC) wedi'u cyhoeddi, sy’n cynnig cipolwg newydd o sut mae pobl yn teithio trwy Gymru a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar eu dewisiadau trafnidiaeth bob dydd.
Ymatebodd mwy na 6,100 o bobl yn ystod y flwyddyn arolwg lawn gyntaf, gan gofnodi mwy na 18,000 o deithiau ym mhob rhan o Gymru.
Wedi'i gyhoeddi a'i arwain gan TrC (Trafnidiaeth Cymru) a Llywodraeth Cymru, yr ATCC yw'r arolwg teithio pwrpasol ledled Cymru cyntaf ers 2012 ac fe'i datblygwyd i ddarparu sail dystiolaeth gryfach ar gyfer polisïau a chynllunio trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn edrych ar sut, pam, pryd a ble mae pobl yn teithio, ynghyd â'u hagweddau o ran gwahanol fathau o gludiant a'r ffactorau a allai annog pobl i deithio mewn modd mwy cynaliadwy.
Mae'r arolwg blynyddol yn casglu ymatebion gan oedolion (dros 16 oed) o bob rhan o Gymru, gan gynnwys defnyddwyr – a’r rhai nad sydd yn ddefnyddwyr – o wahanol ddulliau o drafnidiaeth.
Mae cyfranogwyr hefyd yn llenwi dyddiadur teithio deuddydd, sy’n darparu gwybodaeth fanwl am y teithiau yn ystod y ddau ddiwrnod cyn yr arolwg.
Mae tri phrif adroddiad wedi'u cyhoeddi, sy'n canolbwyntio ar ymddygiadau teithio, agweddau teithio, a'r ffactorau a allai annog mwy o deithio cynaliadwy.
Ategir y prif adroddiadau yma gan saith adroddiad moddol gyda mwy o fanylion am gerdded ac olwynio, beicio, bws, trên, tacsi, car a dulliau trafnidiaeth eraill (awyren, fferi a thrafnidiaeth gymunedol), gyda thablau data a chyfoeth o wybodaeth gefndir am yr arolwg.
Mae'r canlyniadau'n cwmpasu blwyddyn arolwg lawn 2025/26 ac yn disodli'r canfyddiadau chwe mis rhagarweiniol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2026. Maent yn sefydlu llinell sylfaen newydd bwysig ar gyfer deall teithio yng Nghymru, a fydd yn dod yn gynyddol werthfawr wrth i ganlyniadau blynyddol pellach amlygu newidiadau mewn patrymau teithio a phrofiadau a gellir eu harchwilio dros amser.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper: “Mae polisi trafnidiaeth da yn dechrau gyda dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl wir yn teithio o gwmpas.
“Am y tro cyntaf mewn dros ddeng mlynedd, mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn rhoi blwyddyn lawn o dystiolaeth sy’n benodol i Gymru ynghylch, sut, pam, a phryd y mae pobl yn teithio, a’r hyn y gallai eu helpu i ddewis teithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
“Bydd y llinell sylfaen newydd hon yn ein helpu ni i ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar brofiadau pob dydd pobl yn erbyn ein strategaeth drafnidiaeth.
“Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gymryd yr amser i ymateb a chofnodi eu teithiau.”
Dywedodd Prif Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth a Datblygu TrC Geoff Ogden: "Am y tro cyntaf mewn mwy na degawd, gennym bellach flwyddyn lawn o dystiolaeth benodol i Gymru sy'n rhoi darlun llawer cliriach inni o sut mae pobl yn teithio yn eu bywydau bob dydd.
"Mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn ein helpu i ddeall nid yn unig y teithiau y mae pobl yn eu gwneud, ond y dewisiadau y tu ôl iddynt, eu profiadau o wahanol fathau o gludiant a rhai o'r rhwystrau a all wneud teithio'n gynaliadwy yn anoddach.
"Mae cael y dystiolaeth hon yn hynod werthfawr. Mae'n rhoi sylfaen dystiolaeth gryfach i Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn helpu cynllunio trafnidiaeth sy’n gweddu anghenion a phrofiadau pobl ledled Cymru.
"Wrth i'r arolwg barhau'n flynyddol, byddwn hefyd yn gallu adeiladu darlun cynyddol fanwl o sut mae teithio yng Nghymru yn newid dros amser."
Yn dilyn eu hadolygiad o'r cyhoeddiad chwe mis rhagarweiniol, disgrifiodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau allbynnau cychwynnol ATCC fel "set gref o ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu”.
Bwriedir i'r canlyniadau gefnogi polisi trafnidiaeth a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys monitro blaenoriaethau o fewn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Darllenwch ganlyniadau llawn Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru 2025/26: Y canlyniadau diweddaraf | Trafnidiaeth Cymru
Nodiadau i olygyddion
Mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn arolwg blynyddol o oedolion dros 16 oed wedi’u dewis ar hap sy'n byw yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn cynnwys holiadur sy'n ymdrin ag agweddau a phrofiadau teithio a dyddiadur teithio deuddydd ôl-weithredol.
Mae'r arolwg yn cwmpasu teithiau sy'n dechrau ac/neu'n gorffen yng Nghymru, gan gynnwys teithiau trawsffiniol. Nid yw teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen y tu allan i Gymru wedi'u cynnwys.
Mae ffigurau rheilffyrdd yn cwmpasu teithiau a wneir gan drenau ar draws gweithredwyr ac nid ydynt yn benodol i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Mae'r un egwyddor yn berthnasol i deithiau bws.
Dylid trin cymariaethau ag arolygon teithio cenedlaethol eraill yn ofalus oherwydd gall diffiniadau a methodolegau fod yn wahanol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer teithio gweithredol.
- Cynhelir y ATCC ar lefel unigol yn hytrach nag ar lefel aelwyd.
- Nid yw plant dan 16 oed yn gymwys i gymryd rhan yn y ATCC
- Mae data ATCC yn cynnwys teithiau pwrpasol neu ddefnyddiol, cerdded, olwyno a beicio fel y diffinnir gan ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, ond nid yw'n cynnwys teithiau hamdden ar gyfer cerdded, olwynio a beicio (e.e. cerdded y ci).
Mae'r canlyniadau blwyddyn lawn yn disodli'r set ddata ATCC chwe mis rhagarweiniol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2026.