Skip to main content

Innovation and new ideas to shape customer experience at Transport for Wales

15 Gor 2020

CYFLWYNODD busnesau creadigol o bob cwr o’r DU eu syniadau ar gyfer gwella profiad cwsmeriaid ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yr wythnos hon.

Roedd yr wyth busnes cychwynnol wedi bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn ei Labordy Arloesi i ddatblygu eu syniadau a chreu cynnyrch sydd o fudd i’r  rhwydwaith rheilffyrdd.

Gwelodd y “diwrnod arddangos rhithwir” dri chwmni yn cael cyfran o £30,000 i ddatblygu eu syniadau ymhellach.

Mae Gwasanaeth Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn bwriadu datblygu dau syniad ymhellach.

Roedd y syniadau buddugol yn cynnwys ap newydd sydd wedi’i lunio i helpu cwsmeriaid i symud o gwmpas gorsafoedd gyda gwybodaeth amser real am gyfleusterau a thorfeydd, system gwybodaeth bersonol i deithwyr a chyfleuster parcio modern sy’n ceisio lleihau tagfeydd ac allyriadau cymaint â phosibl mewn dinasoedd.

Agorwyd y digwyddiad gan Kevin Thomas, Prif Weithredwr Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a dywedodd ei fod yn benderfynol o feithrin doniau a rhoi’r cyfle i bobl ddangos bod ffordd well o wneud pethau.

Meddai: “Wrth i ni weithio ein ffordd drwy’r cyfnod rhyfedd hwn gyda Covid-19, mae arloesi a syniadau newydd yn bwysicach nag erioed.

“Mae gweithio gydag wyth sefydliad cychwynnol a’u gweld yn datblygu wedi bod yn galonogol iawn. Nawr, byddwn yn parhau i weithio gyda thri phrosiect er mwyn eu datblygu ymhellach i greu cynnyrch ar gyfer ein cwsmeriaid a phrofi llwyddiant ein menter Labordai.

“Rydym ni yma i wasanaethu ein cwsmeriaid ac nid oes modd gwneud hynny’n dda drwy ddal ymlaen i wneud yr hyn roeddem ni’n arfer ei wneud. Mae angen i ni herio’r drefn, newid y ffordd o feddwl a chyflwyno pethau gwell.”

Mae’r Labordy wedi’i gynllunio fel rhaglen sbarduno ar gyfer cwmnïau cychwynnol i ddatblygu gwasanaeth a all wella arloesedd yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru.

Yn ystod y rhaglen 12 wythnos, bu wyth cwmni newydd yn gweithio gyda’r arbenigwyr datblygu Alt Labs a thîm arloesi TrC mewn ymdrech i wella profiad cwsmeriaid.

Dywedodd Adam Foster o Alt Labs bod Y Labordy yn gymorth go iawn i TrC a’r cwmnïau cychwynnol sy’n cymryd rhan”.

Meddai:

“Yn ystod y rhaglen 12 wythnos, mae 5 cwmni cychwynnol wedi gallu datblygu eu syniadau a chreu datrysiadau terfynol ac mae Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC yn ystyried rhoi’r rhain ar waith nawr ledled y busnes. Mae’r cyfleoedd y mae’r Lab yn eu darparu ar gyfer cwmnïau arloesol yn rhai go iawn ac mae hyn yn amlwg o’r gwaith rhagorol y mae Carfan Un wedi’i wneud.”

Roedd rhai o’r cynhyrchion a ddatblygwyd yn cynnwys systemau gwybodaeth teithwyr, integreiddio ap ar gyfer teithio mwy gwyrdd, meinciau clyfar a mwy.

Wrth i ni ddatblygu llawer o wasanaethau gwych, roedd hi’n dipyn o her beirniadu Carfan Un. Ar ôl i bob cwmni gyflwyno eu syniadau, cadarnhaodd y Rheolwr Mewnwelediad ac Arloesedd, Michael Davies, yr enillwyr.

Dyfarnwyd £5000 i Brite Yellow Ltd i ddatblygu eu ap sy’n gwella profiad teithwyr i bawb. Mae’r ap wedi’i lunio i helpu cwsmeriaid i symud o gwmpas ein gorsafoedd ac mae’n rhoi gwybodaeth amser real am gyfleusterau a thorfeydd posibl. Mae’n cynnwys y posibilrwydd cyffrous o gael taith rithwir ynghyd â chanllawiau gweledol, llais a haptig i archwilio mannau hygyrchedd, er mwyn tywys cwsmeriaid o gwmpas gorsafoedd a helpu i nodi ceisiadau teithwyr am gymorth.

Dywedodd Fredi Nonyelu o Brite Yellow Ltd bod y rhaglen wedi bod yn “wych” ac yn blatfform rhagorol i arddangos eu harloesedd.

Meddai: “Rydym ar ben ein digon ar ôl ennill ac yn rhannu ein hangerdd gyda Trafnidiaeth Cymru i wella profiadau cwsmeriaid cyn ac yn ystod eu teithiau.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael y cyfle i ddarparu gwell gwybodaeth i deithwyr a staff gorsafoedd.”

Dyfarnwyd £10,000 i Passage Way i gefnogi eu system gwybodaeth bersonol i deithwyr, Fy Nhaith. Nod y system yw rhoi’r wybodaeth amser real ddiweddaraf sy’n cynnwys oedi, problemau teithio, parcio ac argaeledd bysiau. Nid oes angen lawrlwytho data na chofrestru, gan ei gwneud yn broses gyflym i gwsmeriaid gael gafael ar wybodaeth yn syth drwy gyfrwng URL byr a chod QR.

Disgrifiodd Chris Johns o Passage Way y Labordy a’r Rhaglen Sbarduno fel rhywbeth a fyddai’n annog arloesedd.

Meddai: “Cafodd y syniad ar gyfer PPIS Fy Nhaith ei ddatblygu mewn sesiynau taflu syniadau gyda’r tîm TrC. Cafwyd trafodaeth agored a didwyll am yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r sefydliad a galluogodd hyn ni i edrych yn fanylach ar ein gwaith ein hunain a sut y gellid ei arloesi i ddiwallu anghenion cwsmeriaid TrC.

“Rydym yn edrych ymlaen at feithrin ein gwaith cysyniadol, er mwyn datblygu technoleg cwbl arloesol gyda’r hyblygrwydd i fodloni heriau profiad cwsmeriaid presennol a newydd.

Dyfarnwyd £15,000 i CleverCiti i weithredu eu datrysiad parcio clyfar arloesol sy’n ceisio lleihau tagfeydd ac allyriadau mewn dinasoedd. Datgelodd rhan o ymchwil CleverCiti bod 85% o’r cyhoedd yn cytuno y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio trenau pe baent yn gallu gweld lleoedd gwag mewn meysydd parcio yn ddigidol. Felly, mae CleverCiti yn ystyried defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn synwyryddion uchel sy’n darparu canllawiau ar barcio lleol a gwybodaeth ddadansoddol o reolaeth meysydd parcio. Drwy gyfrwng ap, bydd cwsmeriaid a chydweithwyr yn gallu gwirio’n ddigidol a oes lleoedd ar gael a ble i ddod o hyd iddynt.

Disgrifiodd Chris Heddle o CleverCiti y Labordy fel cyfle prin i gael mewnwelediad ar weithredoedd rheilffyrdd.

Meddai: “Roedd Labordy Trafnidiaeth Cymru yn gyfle gwych i fynd i mewn i sefydliad a darganfod mannau gwan y gellid eu cryfhau. Galluogodd y rhaglenni ni i feddwl ac arloesi gyda llawer mwy o ffocws gan ein bod yn gallu cysylltu â holl aelodau staff TrC ynghyd â’u cwsmeriaid. Mae hyn yn allweddol wrth ddeall pam fod problemau ac roedd yn golygu ein bod wedi gallu addasu ein cynnig i ddiwallu union anghenion TrC a’u cwsmeriaid. Roedd hi’n braf cael cyflwyno fel rhan o’r Diwrnod Arddangos er ei fod yn ddiwrnod rhithwir, ond mae bob amser yn braf hyrwyddo cynhyrchion Cleverciti i gynulleidfa fawr. Rydym ni ar ben ein digon o gael ein dewis fel enillwyr a dydyn ni ddim yn gallu aros i gael dechrau arni a pharhau ein partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru.”

I wylio’r diwrnod arddangos ar ei hyd, cliciwch yma.

Llwytho i Lawr