Skip to main content

New Transport for Wales trains on show

01 Gor 2022

Mae trenau newydd sbon a fydd yn trawsnewid a gwella trafnidiaeth ledled Cymru a’r gororau wedi cael eu harddangos yng ngorsaf reilffordd Caer. 

Wedi’i hadeiladu gan CAF yn eu ffatri yng Nghasnewydd, datgelwyd y trên Dosbarth 197 cyntaf gyda’r label ‘Gwnaed yng Nghymru’ i’r cyhoedd heddiw, gan roi blas o’r hyn sydd gan gwsmeriaid i edrych ymlaen ato yn y misoedd nesaf.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwario £800 miliwn ar drenau newydd ar draws ei rwydwaith a’r Dosbarth 197 fydd y cyntaf o’r stoc newydd sbon i ymuno â'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru cyn diwedd y flwyddyn.

Gan ddarparu mwy o gapasiti, llai o allyriadau yn ogystal â bod yn eithriadol o gyffyrddus, bydd y trenau hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaethau cyflymach ac amlach i lwybrau allweddol gan gynnwys cyrchfannau fel Caergybi, Abergwaun a Lerpwl. 

Mae ganddynt seddi lledr, systemau aerdymheru modern, drysau lletach a sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid.  Bydd y trenau newydd hyn yn gweddnewid profiad y cwsmer.  Mae ganddynt hefyd bwyntiau gwefru electronig a nodweddion anabledd ar gyfer y rhai â symudedd cyfyngedig.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Pleser o'r mwyaf yw gallu croesawu’r trenau Dosbarth 197 newydd i’r rhwydwaith rheilffyrdd.  Mae’r cerbydau newydd hyn yn cynrychioli gwelliant trawsnewidiol gwirioneddol i'r trenau y maent yn eu disodli.  Byddant yn cynnig gwasanaethau cyfforddus ac aml, gan annog pobl i adael eu ceir gartref a throi at ffordd fwy cynaliadwy o deithio.” 

Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth TrC: “Yn Trafnidiaeth Cymru rydym yn symud ymlaen yn barhaus gyda’n cynlluniau trawsnewidiol i wella trafnidiaeth gyhoeddus i bobl Cymru a’r gororau.

“Bydd y Dosbarth 197 sy’n cael ei arddangos yng ngorsaf reilffordd Caer heddiw yn rhan bwysig o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau.  Pan fyddant yn ymuno â'r gwasanaeth, byddant yn ein galluogi i redeg mwy o wasanaethau a chludo mwy o gwsmeriaid yn gyfforddus.

Mae’r gwaith o adeiladu ein trenau newydd wedi cymryd pedair blynedd, ac mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teithwyr i deithio ar y trenau yn ddiweddarach eleni.

“Mae hefyd yn bwysig cydnabod mai yng Nghymru y gwnaed y trenau hyn - yn ffatri CAF yng Nghasnewydd.  Mae'r gwaith o'u hadeiladu wedi creu swyddi ac wedi cefnogi’r economi leol”.

Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF y DU: "Rydyn ni yn CAF ar ben ein digon gallu lansio yn swyddogol y cyntaf o’n trenau Dosbarth 197 ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau. 

Rydym yn hynod falch o’n rôl allweddol yn cyflawni gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid profiad pobl o deithio ar y trên. 

Mae'r gwaith o adeiladu'r trenau hyn yn cael ei wneud mewn cyfleuster o’r radd flaenaf yng Nghasnewydd, De Cymru.  Rydym yn ystyried ein hunain yn wneuthurwr lleol, yn cefnogi swyddi medrus iawn ac yn creu swyddi yn yr ardal leol tra’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a mynd i’r afael ag anghenion economi Cymru.

Mae ein trenau’n cael eu hadeiladu yng Nghymru er mwyn gwasanaethu cymunedau Cymru.”

Nodiadau i olygyddion


Pan fydd y trenau Dosbarth 197 yn dechrau rhedeg, dyma’r llinellau y byddant yn eu gwasanaethu:

- Arfordir Gogledd Cymru (Caergybi-Manceinion/Birmingham)

- Caerdydd-Caergybi

- Lein Dyffryn Conwy (Llandudno-Blaenau Ffestiniog)

- Llinell y Gororau (Wrecsam-Bidston)

— Caer-Lerpwl

- Lein y Gororau (Caerdydd-Manceinion/Lerpwl)

- Lein y Cambrian (Birmingham-Aberystwyth/Pwllheli)

- Lein Glynebwy (Glyn Ebwy-Caerdydd/Casnewydd)

— Maesteg-Cheltenham

— Manceinion-Aberdaugleddau

— Caerdydd-Abergwaun

— Abertawe-Doc Penfro