03 Hyd 2023
Mae amrywiaeth o fwyd a diod lleol o ansawdd uchel ar gael dim ond drwy glicio pan fyddwch chi’n teithio ar drenau rhwng gogledd a de Cymru a Lloegr.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno system archebu o’ch sedd ar ei wasanaethau Premier sy’n rhedeg rhwng Caerdydd, Caergybi a Manceinion.
Bydd cwsmeriaid sy’n teithio ar y gwasanaeth yn gallu sganio cod QR ar eu sedd, dewis o fwydlen o gynnyrch o Gymru a’r DU a bydd y staff yn gwneud y gweddill.
Dywedodd Paul Otterburn, Rheolwr Gweithrediadau Arlwyo TrC, fod arnyn nhw eisiau gwneud pethau’n hollol hawdd i gwsmeriaid.
Dywedodd: “Pan fyddwch chi’n teithio’n bell, beth sy’n well nag eistedd yn ôl a gwylio’r byd yn gwibio heibio ar yr un pryd â mwynhau pryd ysgafn, byrbryd neu ddiod?
“Mae cogyddion ar ein trenau Premier, felly bydd bwyd ffres poeth yn cael ei weini i chi ar ôl i chi glicio ar eich dewis.
“Mae’r system QR yn golygu eich bod yn gallu gweld beth sydd ar gael o’ch sedd heb orfod cerdded drwy nifer o gerbydau i gyrraedd y cerbyd bwffe.”
Cyn bo hir bydd y system archebu QR hefyd yn cael ei chyflwyno ar fflyd newydd sbon Trafnidiaeth Cymru o drenau Class 197. Bydd y trenau hyn yn rhedeg ar draws yr holl brif lwybrau yng Nghymru ac ar hyd y ffin â Lloegr.
Rydyn ni wedi ailenwi tîm arlwyo Trafnidiaeth Cymru eleni, a’r enw newydd yw “Blas”. Mae’r tîm eisiau cynnig cynnyrch o’r safon uchaf gan gyflenwyr lleol i gwsmeriaid.
I weld y bwydlenni sydd ar gael ar hyn o bryd, gallwch hefyd glicio yma