Skip to main content

Transport for Wales customers urged to plan ahead as timetables change

15 Mai 2021

Rydyn ni’n annog cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru i daro golwg ar fanylion eu taith fis yma gan fod yr amserlen yn cael ei newid ym mis Mai.

Bydd amserlenni newydd yn dod i rym ar draws rhwydwaith reilffyrdd Prydain o ddydd Sul 16 Mai ymlaen.

Er na fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o wasanaethau, dylai cwsmeriaid rheilffyrdd TrC sy’n defnyddio ein gwasanaethau gadarnhau eu hamseroedd gadael, cyrraedd ac unrhyw drenau cysylltu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, ei bod “bob amser yn synhwyrol cynllunio ymlaen llaw”.

Dywedodd: “Pryd bynnag y byddwch chi’n teithio, dylech wirio eich manylion teithio ymlaen llaw ac ar ddiwrnod y daith ei hun.

“Dydy ein hamserlen ddim yn newid yn sylweddol, ond efallai y bydd yn stori wahanol i gwmnïau eraill, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich trên yn gadael yr un pryd ag y gwnaeth fis diwethaf neu’r llynedd.

“Mae’r mesurau rydyn ni wedi’u cyflwyno i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu teithio’n saffach yn dal i fod ar waith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld mwy ohonoch chi’n ôl ar ein trenau nawr bod y cyfyngiadau wedi dechrau llacio.”

Rydyn ni’n atgoffa cwsmeriaid sy’n dychwelyd i’r rhwydwaith ar ôl nifer o fisoedd ei bod yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drenau ac mewn gorsafoedd, oni bai eich bod wedi eich eithrio, a bod yn rhaid i chi brynu tocyn dilys cyn mynd ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru.

Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio ein pecyn Gwirio Capasiti i gael syniad ynglŷn â pha mor brysur mae eu trên yn debygol o fod.

Gall cwsmeriaid brynu eu tocynnau a gwirio manylion eu teithiau yma.