22 Maw 2020
Cynnydd sydyn mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar rwydwaith reilffyrdd
Mae Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gofyn i bobl gefnogi'r rhwydwaith a'r diwydiant rheilffyrdd trwy ddilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus ar bellhau cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19.
Mae ‘na ostyngiad wedi bod yn y nifer o deithwyr ar y rheilffordd ac mae mwyafrif o deithwyr sy’n defnyddio’r trenau nawr yn weithwyr allweddol sy'n cefnogi'r GIG a gwasanaethau critigol eraill.
Yn dilyn mesurau iechyd y llywodraeth ac iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, bu cynnydd sydyn mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar rwydwaith reilffyrdd, gan gynnwys adroddiadau am bobl sydd ddim yn dilyn y canllawiau o bellhau cymdeithasol, sy'n effeithio ar staff a theithwyr rheilffyrdd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Leyton Powell: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gefnogi pob ymdrech i leihau effaith y feirws ofnadwy hwn, gan weithio’n galed i sicrhau y gall gweithwyr allweddol barhau i deithio.
“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gyfnod anodd gyda chau ysgolion ac unrhyw ymgynnull cymdeithasol wedi eu heffeithio, ond nid ar drenau a gorsafoedd yw’r lle i ymgynnull.
“Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg. Mae staff y gwasanaeth brys sy'n defnyddio ein trenau a'n gweithwyr allweddol yn cael teithio'n ddiogel ac yn hyderus.
“Rwy’n annog pobl ifanc yn benodol, a allai fod yn ystyried defnyddio gwasanaethau rheilffordd i ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus, ymddwyn yn gyfrifol ac i’w rhieni annog hyn yn weithredol hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn parchu ein cymuned a phobl weithgar Cymru a'r Gororau.”
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cynyddu patrolau ar drenau ac mewn gorsafoedd fel ymateb i’r cynnydd mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cefnogi gweithwyr allweddol sy’n teithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â staff y’n gweithio’n galed i gadw gwasanaethau i weithredu.