06 Maw 2026
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno un o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol i'w amserlen ar gyfer Gogledd Cymru mewn cenhedlaeth ym mis Mai eleni (o 17eg).
Bydd Gorllewin Cymru hefyd yn elwa ar fwy o drenau ar lwybrau gwyliau prysur ac ar ddydd Sul dros yr haf i gefnogi'r economi dwristiaeth leol yn y rhanbarth.
Bydd y newidiadau yn cynyddu nifer y gwasanaethau trenau ar Lein Arfordir Gogledd Cymru o tua 50%.
Mae'r newidiadau hyn, a gyflwynir drwy raglen fuddsoddi ehangach Rhwydwaith Gogledd Cymru, yn gam mawr tuag at wella capasiti rheilffyrdd, dibynadwyedd a chysylltedd ar draws y rhanbarth, gan gefnogi'r galw cynyddol am deithio cynaliadwy a chysylltiadau cryfach o fewn cymunedau.
O 17 Mai 2026, bydd cwsmeriaid yn elwa ar amserlen wedi'i hailgynllunio'n llwyr sy'n cynnwys pob llwybr i'r gogledd a'r gorllewin o'r Amwythig a Crewe (ac eithrio gwasanaethau rhwng Wrecsam a Bidston).
Mae'r strwythur newydd yn cyflwyno patrwm safonol bob awr, sy'n golygu y bydd rhai trenau'n rhedeg ar yr un pryd bob awr i'w gwneud hi'n haws i gynllunio teithiau.
Bydd y newidiadau yn sicrhau cynnydd sylweddol yn amlder a chapasiti trenau rhwng Caer a Chyffordd Llandudno, un o rannau prysuraf o rwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau .
Maent hefyd yn gam pwysig wrth baratoi ar gyfer rhoi cam un o'r system Talu wrth Fynd (PAYG) ar waith yng Ngogledd Cymru eleni. Mae cam cyntaf y broses gyflwyno, fydd yn dod yn weithredol ar 18 Mai, yn cynnwys 15 gorsaf o Wrecsam Cyffredinol – Bidston.
Pleser gan TrC yw cyflwyno'r opsiwn Talu wrth Fynd yng Ngogledd Cymru yn dilyn ei lwyddiant anhygoel yn Ne-ddwyrain Cymru, gan ddarparu'r un gwerth a chyfleustra i bobl Gogledd Cymru.
Oherwydd y newid mawr hwn yn yr amserlen, ni fydd rhai teithiau uniongyrchol yn gweithredu mwyach, fodd bynnag, mae'r amserlen wedi'i chynllunio felly bydd cwsmeriaid yn dal i allu gwneud teithiau hirach trwy newid trenau yn hawdd mewn hybiau allweddol fel Caer a Chyffordd Llandudno.
Cynghorir cwsmeriaid yn gryf i wirio cyn teithio, gan fod patrymau galw mewn gorsafoedd hefyd yn newid a gall trenau alw mewn gwahanol orsafoedd nag o'r blaen.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy'n cysylltu â gwasanaeth gweithredwr cwmni tren eraill, a allai hefyd fod wedi addasu ei amserlen.
Newidiadau pwysig
Arfordir a Gororau Gogledd Cymru
- Bydd trenau o Faes Awyr Manceinion i Landudno nawr yn gwasanaethu Caergybi yn lle hynny, gan wella cysylltiadau â Gogledd-orllewin Lloegr a gwella cysylltiadau gyda'r fferi i Iwerddon o Fanceinion.
- Mae gwasanaethau ar wahân Wrecsam - Caer a Chaer - Crewe bob awr yn cael eu cyfuno'n un gwasanaeth.
- Bydd gwasanaeth Lerpwl - Caer yn cael ei ymestyn i Landudno, gan gynnig cyfleoedd teithio uniongyrchol newydd.
- Bydd gwasanaeth Birmingham - Gogledd Cymru (gan gynnwys o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham) - bob dwy awr ar hyn o bryd - yn gweithredu yn ol ac ymlaen o Gyffordd Llandudno, nid Caergybi.
- Bydd patrwm gwasanaeth newydd yn gwella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor, gan gefnogi cyflogaeth leol a thwf economaidd.
- Bydd gorsaf Y Fali yn cael ei chynnwys fel gorsaf ar gyfer yr holl wasanaethau perthnasol, gan helpu i roi mwy o hyder i gwsmeriaid deithio o'r orsaf hon.
Gorllewin Cymru
Bydd trenau ychwanegol hefyd ar lwybrau gwyliau prysur fel rhwng Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod tan fis Medi, a threnau ychwanegol ar ddydd Sul ym mis Awst a mis Medi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr.
“Ochr yn ochr â buddsoddiad cenhedlaethol o £14bn mewn rheilffyrdd Cymru, trenau newydd a rhewi prisiau, mae’r newid amserlen newydd yn welliant enfawr arall i drafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae hyn yn cyfateb i bron ddyblu gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar Linell Arfordir Gogledd Cymru a threnau ychwanegol hanfodol bwysig ar lwybrau gwyliau prysur ledled Gorllewin Cymru.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC: “Mae hwn yn newid unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer gwasanaethau trenau yng Ngogledd Cymru.
"Drwy gynyddu capasiti, gwella amlder, a symleiddio'r amserlen, rydym yn creu rhwydwaith mwy dibynadwy a chysylltiedig sy'n gwasanaethu anghenion ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn well."
I gael manylion llawn ac i gynllunio'ch taith, gwiriwch cyn teithio trwy ymweld â www.trc.cymru a nodwch fanylion y daith o 17 Mai ymlaen.
Dywedodd Emma Osborn, Cyfarwyddwr Strategaeth Teithwyr Network Rail Cymru a’r Gororau, “Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi cyflwyno gwasanaethau gwell i gymunedau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru ac i Ogledd Lloegr.
"Mae gwella cysylltedd yn hanfodol, a bydd y cynnydd hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl deithio, gan gryfhau cysylltiadau rhwng rhanbarthau.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn weledigaeth fuddsoddi hirdymor i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gwasanaethau amlach ar gyfer Gogledd Cymru, gan gysylltu pobl â swyddi, cyfle, cymuned ac ansawdd bywyd gwell. - https://trc.cymru/prosiectau/rhwydwaith-gogledd-cymru
- Ar draws diwydiant rheilffyrdd y DU mae dau newid amserlen mawr bob blwyddyn ym mis Mai ac ym mis Rhagfyr fel rhan o'r newid amserlen rheilffyrdd bob dwy flynedd cenedlaethol a gydlynir ledled Prydain Fawr.
- Mae TrC yn rhedeg mwy na 1,000 o wasanaethau i deithwyr bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. · I weld y newidiadau o 17 Mai, ewch i - https://tfw.wales/service-status/timetables
- Mae'r amserlenni newydd bellach wedi'i hymgorffori mewn systemau cynllunio cyn y newid ar 17 Mai, fel y gall cwsmeriaid chwilio am ac ymgyfarwyddo ag amseroedd trenau ar ôl y dyddiad hwn. · Mae manylion gwasanaethau TrC bellach ar gael ar ein gwefan yn www.tfw.wales, a elwid gynt yn ‘Gwiriwr Taith'.
- Bydd TrC yn cynnal sioeau teithiol yn ein gorsafoedd a bydd gwybodaeth ar gael ar bapur cyn y newid i dynnu sylw at y newidiadau i gynifer o gwsmeriaid â phosibl.
- Mae TrC wedi bod yn gwneud y gorsafoedd ‘ar alw’ mwy o faint o amgylch Cymru yn orsafoedd parhaol h.y. nid yn orsafoedd 'ar alw' yn sgil y newidiadau i'r amserlenni diwethaf gan gynnwys gorsafoedd fel Cydweli, Ferryside, Deganwy, Conwy, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llanfairpwll.
- Er nad yw gorsaf Bidston yn un o orsafoedd TrC, mae dilyswr platfform TrC ar gael yn yr orsaf i alluogi defnyddio TwF
- Mae Network Rail wedi cau dwy o groesfannau rheilffordd risg uchaf yng Nghymru ym Mhrestatyn ers mis Mawrth i alluogi'r newidiadau hyn - Accessibility and safety boost for Prestatyn community as work set to begin on new station footbridge