Skip to main content

Train services restored in May timetable change

20 Ebr 2022

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith gan y bydd cynnydd mewn gwasanaethau trên o fis Mai ymlaen.

O ddydd Sul 15 Mai, bydd amserlen reilffordd newydd yn cael ei chyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.  Bydd hyn yn golygu ail-gyflwyno nifer o wasanaethau ar draws Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru a gafodd eu tynnu oddi ar yr amserlen o ganlyniad i bandemig Covid-19.  Bydd hyn yn golygu mwy o gapasiti ar gyfer tymor twristiaeth yr haf.

Er na effeithir dim ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i wirio yn drylwyr eu hamseroedd gadael, cyrraedd ac amseroedd cysylltiadau.

Ymhlith y newidiadau allweddol, bydd naw gwasanaeth ychwanegol bob ffordd y dydd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru rhwng Caer a Chyffordd Llandudno.  Bydd hyn yn cynnwys gweld gwasanaethau uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion, a chwe gwasanaeth ychwanegol bob ffordd rhwng Abertawe a Gorllewin Cymru yn dychwelyd.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ailgyflwyno dau wasanaeth dwyffordd ychwanegol rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, ac ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Yng Nghaerdydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn adfer gwasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur, a bydd y gwasanaeth gwennol rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd hefyd yn dychwelyd, gan ailgyflwyno cysylltiadau allweddol o fewn y ddinas.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “O 15 Mai, byddwn yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill.  Mae'n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio.

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n brysurach nag y buont ers tro, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur y gwyliau. I'r cwsmeriaid hynny sy'n dymuno teithio ar wasanaethau tawelach, rydym yn argymell eu bod yn defnyddio ein Gwiriwr Capasiti."

Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau   yma.

Bydd gwaith trawsnewid Metro De Cymru yn parhau i ddigwydd dros yr haf, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid bob amser wirio a effeithir ar eu taith.

Mae disgwyl hefyd i gyfnod amserlen Mai-Rhagfyr gynnwys cyflwyno’r cyntaf o drenau newydd sbon TrC.  Mae'r trenau newydd cyntaf ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau wedi'u cynllunio i ddod i wasanaeth ar lwybrau yng Ngogledd Cymru a'r Gororau yn ystod yr haf.

Nodiadau i olygyddion


Newid i ddata’r Gwiriwr Capasiti o 15 Mai 2022

Mae’n fwy na thebyg na fydd data ar gael ar gyfer rhai gwasanaethau am 7 niwrnod yn dilyn cyhoeddi’r amserlen newydd ar 15 Mai.  Os nad yw’r trên rydych chi’n bwriadu teithio arno wedi’i restru, defnyddiwch yr wybodaeth ar gyfer yr amser sydd agosaf ato.

Newidiadau i'r amserlen

Gogledd Cymru:

- Naw taith ddwyffordd ychwanegol rhwng Caer a Chyffordd Llandudno

- Bydd gwasanaethau uniongyrchol Llandudno-Maes Awyr Manceinion yn dychwelyd

- Dau wasanaeth dwyffordd ychwanegol rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, cynnydd o bedwar i chwech

Canolbarth a Gorllewin Cymru:

- Dau wasanaeth dychwelyd ychwanegol rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, cynnydd o 10 i 12

- Bydd chwech o'r gwasanaethau dychwelyd presennol rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin yn cael eu hymestyn i Abertawe, a gwasanaeth dwyffordd ychwanegol rhwng Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.

- Tri gwasanaeth dychwelyd ychwanegol i/o Harbwr Abergwaun, yn cynyddu o dri i chwech

- Ar Reilffordd Calon Cymru, gwasanaeth ychwanegol yn gynnar yn y bore rhwng Amwythig a Llandrindod, a gwasanaeth ben bore ychwanegol rhwng Abertawe a Llanymddyfri

 De Cymru:

- Ailgyflwyno gwasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur ar Linell y Ddinas

- Ailgyflwyno pum gwasanaeth yr awr rhwng Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd

(yn amodol ar gwblhau gwaith hanfodol i bont Stryd Adam)

 Y Gororau:

- Bydd pedwar gwasanaeth rhwng De Cymru a Chaerloyw yn cael eu hymestyn i Cheltenham Spa

- Gwasanaethau TrC i Stafford - dod i ben

- Y gwasanaethau dydd Sul dethol rhwng Amwythig a Wolverhampton sy'n galw mewn gorsafoedd canolradd - dod i ben

Llwytho i Lawr