Skip to main content

TrawsCymru T4 and T10 services move to winter timetables

30 Hyd 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) am atgoffa cwsmeriaid y bydd bysus ychwanegol yr haf ar lwybrau T4 a T10 TrawsCymru yn dod i ben yn fuan, gydag amserlenni'r gaeaf yn dod i rym ar Ddydd Sul 2 Tachwedd. 

Mae'r teithiau haf ychwanegol wedi cefnogi cymunedau, ymwelwyr a chyrchfannau ledled Cymru i ateb y galw tymhorol. 

O 2 Tachwedd, bydd y gwasanaethau T4 a T10 yn dychwelyd i'w hamserlenni arferol, gan gynnal cysylltiadau allweddol a gwasanaethau trafnidiaeth hanfodol trwy gydol y gaeaf. 

Dywedodd Mark Jacobs, Uwch-Reolwr Cynllunio a Datblygu TrawsCymru: 

"Rydym wedi bod yn falch o weld cwsmeriaid yn elwa o'n hamserlenni haf ar lwybrau T4 a T10 yn ystod y misoedd diwethaf." 

"Wrth i dymor y gaeaf agosáu, bydd y gwasanaethau hyn yn dychwelyd i'w hamserlenni safonol, gan barhau i ddarparu cysylltiadau pwysig i gymunedau a chwsmeriaid ledled Cymru." 

Cynghorir cwsmeriaid sy'n cynllunio teithiau ar lwybrau T4 neu T10 i wirio cyn iddynt deithio. 

Mae amserlenni diweddaraf ar gael ar wefan TrawsCymru.

Llwytho i Lawr