19 Rhag 2025
Mae Cysylltu De Orllewin Cymru, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y rhanbarth, yn falch iawn o gyhoeddi bod Dawn Lyle wedi’i hailethol yn Gadeirydd ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Bartneriaeth.
Cafodd y cyfarfod cyffredinol ei chynnal yn Tramshed Tech yn Abertawe, lle bu presenoldeb da iawn o gynrychiolwyr o grwpiau cymunedol, sefydliadau trafnidiaeth a rhanddeiliaid rhanbarthol, a hynny’n adlewyrchu’r modd y mae’r Bartneriaeth yn cydweithio ac yn cael effaith gynyddol drwy Sir Gâr, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae eleni hefyd yn garreg filltir o bwys i’r Bartneriaeth, a hithau’n bum mlynedd ers ei sefydlu yn 2020. Yn y cyfnod hwnnw, gyda 4TheRegion yn falch o fod yn sefydliad lletya, mae’r Bartneriaeth wedi cryfhau cysylltiadau cymunedol, wedi hybu teithio cynaliadwy, ac wedi cyflawni nifer o brosiectau effeithiol o amgylch rhwydwaith rheilffyrdd y rhanbarth.
Bydd Dawn yn parhau i ymwneud â chymunedau, hybu teithio cynaliadwy a mynd ati i greu lleoedd ledled de-orllewin Cymru.
Meddai Dawn Lyle, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol De Orllewin Cymru: “Rwy’n falch iawn o gael fy ailethol yn Gadeirydd Cysylltu De Orllewin Cymru. Mae hon yn swydd sy’n golygu llawer i mi, gan mai’r nod yw cael pobl i gydweithio er mwyn gwneud ein gorsafoedd a’n llefydd lleol yn fwy cysylltiedig, yn fwy diogel, ac yn fwy croesawgar.
"Mae’r angerdd a’r syniadau y byddaf yn eu gweld yn ein cymunedau yn fy ysbrydoli o hyd, ac rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod ein gwaith yn helpu i amlygu’r holl lefydd hardd a diddorol y mae modd ymweld â nhw yn ein rhanbarth ar drên.”
Meddai Eve Sherratt, Swyddog Rheilffordd Gymunedol Cysylltu De Orllewin Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod Dawn wedi cael ei hailethol yn Gadeirydd. Mae’i hymrwymiad i gysylltiadau cymunedol yn gwbl amlwg ym mhopeth y bydd hi’n ei wneud.
"Mae hi’n hyrwyddwr gwych i’n rhanbarth ni, ac rwy’n teimlo’n gyffrous am gael parhau i weithio gyda hi i gryfhau ein partneriaethau a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy ein rheilffyrdd cymunedol.”
Meddai Melanie Lawton, Arweinydd Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau Dawn ar gael eich ailethol. Mae’r Bartneriaeth yn cyflawni prosiectau ardderchog yn gyson, a’r rheini’n cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd ac yn cael effaith gymdeithasol ledled rhanbarth y de-orllewin.”
Nodiadau i olygyddion
- Manylion am y rôl
Mae cyfrifoldebau’r Cadeirydd yn cynnwys arwain y Bartneriaeth a bod yn llysgennad iddi, cadeirio cyfarfodydd, a chefnogi’r tîm o staff a’r sefydliad lletya, 4TheRegion, i roi’r cynllun gweithgareddau ar waith. Cyfrifoldeb arall pwysig yw cynnal gwerthoedd rheilffyrdd cymunedol drwy hybu lleisiau cymunedau lleol, annog teithio cynaliadwy a hygyrch, hybu amrywiaeth a chynhwysiant, a meithrin datblygiad cymdeithasol ac economaidd drwy’r rhanbarth.
1. Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad llawr gwlad sy’n cynnwys partneriaethau rheilffyrdd cymunedol ledled Prydain. Mae’r rhain yn gweithio ochr yn ochr gyda rheilffyrdd cyflawn neu mewn rhanbarthau penodol, a gyda grwpiau o ‘ffrindiau’ neu grwpiau ‘mabwysiadu’ gwirfoddol mewn gorsafoedd sy’n cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd.Mae dros 75 o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol ar cael, a dros 1,300 o grwpiau ffrindiau gwirfoddol mewn gorsafoedd ledled Prydain.
2. I gael rhagor o wybodaeth Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Cysylltu De Orllewin Cymru a’i brosiectau cymunedol, ewch i www.southwestwales.co
3. 4theRegion yw’r sefydliad sy’n lletya’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol. Cwmni nid-er-elw yw 4theRegion, a sefydlwyd yn Abertawe ym mis Ionawr 2018. Mae hi’n gynghrair o aelodau sy’n gweithio dros newid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.