25 Gor 2019
BYDD dros 150,000 o bobl yn ymweld â Llanrwst wythnos nesaf ac mae’r gymuned yn paratoi i gynnal un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn yng Nghymru.
A ninnau yn bartner trafnidiaeth allweddol ac yn un o brif noddwyr yr ŵyl, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr wythnos yn llwyddiant ysgubol.
Gyda 14 o wasanaethau gwennol ychwanegol bob dydd i gludo pobl yn ôl ac ymlaen i’r Maes, bydd ymwelwyr yn gallu teithio yn dawel eu meddwl y byddan nhw’n mwynhau’r ŵyl. Mae Network Rail wedi trefnu trên stêm arbennig i nodi dechrau’r ŵyl ddydd Sadwrn, 3 Awst.
Mae hi wedi bod yn dipyn o ras i’r diwydiant rheilffyrdd baratoi popeth yn barod ar gyfer yr Eisteddfod.
Ym mis Mawrth, roedd Storm Gareth wedi chwalu rhannau mawr o’r cledrau ar hyd rheilffordd Dyffryn Conwy, a oedd yn golygu nad oes unrhyw drenau wedi gallu teithio ar hyd y llwybr yma ers misoedd.
Ond gyda chwta bythefnos i fynd, cafodd y rheilffordd i Ogledd Llanrwst ei hailagor wythnos diwethaf a bydd yn cael ei hagor yn llawn i Flaenau Ffestiniog wythnos yma, diolch i Network Rail a’u contractwyr sydd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Mae’n andros o ryddhad bod y rheilffordd wedi ailagor a byddwn yn gwneud popeth gallwn ni gyda gwasanaethau ychwanegol bob dydd i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant.
“A ninnau yn un o brif noddwyr y digwyddiad, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydy'r Eisteddfod Genedlaethol i Gymru ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cael cefnogi’r ŵyl yn ystod ein blwyddyn gyntaf.
“Mae 30 o flynyddoedd wedi bod ers i’r Eisteddfod ymweld â Llanrwst ddiwethaf ac mae’n gwbl amlwg faint mae hyn yn ei olygu i’r trigolion lleol.
“Mae buddsoddi yn y Gymraeg yn rhywbeth sy’n eithriadol o bwysig i ni, rydyn ni’n helpu ein cwsmeriaid i ddefnyddio ein holl wasanaethau’n ddwyieithog ac rydyn ni’n helpu ein cydweithwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad Cymraeg.”
Bydd gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail stondin ar y cyd ar y maes a bydd siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn gweithio yno.
Yn draddodiadol bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal mewn lleoliadau gwahanol yng Nghymru yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, gan arddangos awduron, cerddorion a beirdd gorau Cymru. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn hefyd ac fel rheol bydd yr Eisteddfod hon yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Sulgwyn. Roedd Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o noddi Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Philip C Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy: “Rydyn ni wir yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd gan Network Rail a Trafnidiaeth Cymru drwy ddarparu gwasanaeth gwell rhwng Llandudno a Llanrwst ar gyfer y miloedd o Eisteddfodwyr a fydd yn ymweld â’r ardal. Pob clod i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â chynllunio’r digwyddiad arbennig iawn yma.
Dywedodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail, Cymru a’r Gororau: “Yr Eisteddfod Genedlaethol ydy digwyddiad pwysicaf y flwyddyn i nifer o bobl o Gymru a’r tu hwnt. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddod i'r digwyddiad hwn sy’n fyd enwog ac mae croeso cynnes i’r holl ymwelwyr ddod draw i sgwrsio â ni ar ein stondin gyda’n partneriaid Trafnidiaeth Cymru.
“Rydyn ni wedi gweithio’n galed gyda’n partneriaid i sicrhau bod Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ailagor mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydyn ni eisiau diolch i’r teithwyr ac i’r gymuned leol am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith yma.
“Er mwyn dathlu ailagor y rheilffordd ac i nodi diwrnod cyntaf yr Eisteddfod, byddan yn cynnal taith trên stêm arbennig gyda Gwasanaethau Trenau Trafnidiaeth Cymru.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr ein gwlad ac mae’n wych bod Trafnidiaeth Cymru yn un o’r prif noddwyr, ond byddwn hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y digwyddiad ei hun drwy helpu i gludo rhai o’r 150,000 o ymwelwyr i Lanrwst. Rydyn ni ar daith gyffrous ac uchelgeisiol yn Trafnidiaeth Cymru, wrth i ni weithredu rhaglen sy’n golygu buddsoddi £5 biliwn drawsnewid y sector trafnidiaeth a chreu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.
“Yn Trafnidiaeth Cymru rydyn ni’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), ac un o’r prif amcanion ydy creu “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu” ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu hyn yn llawn . Yn bersonol hoffwn ddymuno’r gorau i’r holl gystadleuwyr ac rwy’n siŵr y bydd hi’n Eisteddfod wych.”
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Ry’n ni’n falch iawn i groesawu Trafnidiaeth Cymru fel un o noddwyr y Brifwyl, ac yn diolch iddyn nhw am fod yn brif noddwr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni. Ry’n ni’n ddibynnol ar gymorth ein noddwyr, ac mae cefnogaeth fel hyn yn amhrisiadwy ar gymaint o lefelau.
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn ymroddedig i hyrwyddo ac annog ymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio i’r ŵyl, felly ry’n ni’n hynod falch fod lein Dyffryn Conwy wedi ail-agor mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod. Ry’n ni’n gobeithio byd nifer fawr o bobl o bob cwr o’r ardal yn dod ar y trên i Ogledd Llanrwst lle bydd bws gwennol yn eu cludo i Faes yr Eisteddfod.”
I gael rhagor o wybodaeth am deithio i’r Eisteddfod ac i brynu tocynnau, ewch i: https://trc.cymru/