Skip to main content

Reopening the Treherbert railway line

21 Rhag 2023

Bydd Rheilffordd Treherbert yn ailagor i deithwyr ym mis Chwefror 2024, yn dilyn gwaith uwchraddio enfawr fel rhan o brosiect Metro De Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a phartneriaid wedi cael gwared ar rai o'r seilwaith rheilffyrdd hynaf yng Nghymru, ac wedi eu ddisodli gyda system signalau fodern, newydd sbon gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben a fydd yn trydaneiddio'r llinell yn y dyfodol agos. 

Yn ogystal, mae tair dolen trac newydd wedi'u gosod a fydd yn caniatáu gwasanaethau mwy aml a gwnaed gwaith amrywiol yn y gorsafoedd gan gynnwys ymestyn platfformau ac adeiladu pontydd troed newydd.

Mae'r newidiadau seilwaith i gyd yn rhan o brosiect Metro De Cymru a fydd yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd amlach, gwyrddach a gwell yn y rhanbarth.

Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.

Gan ddechrau fis Ionawr 2024, bydd gyrwyr TrC yn dechrau eu hyfforddiant ar y llinell hon sydd wedi'i huwchraddio, cynllun trac newydd a systemau signalau, yn ogystal â hyfforddiant pellach ar y trenau tram Metro newydd.

Gan y bydd trenau'n rhedeg ar y trac o fis Ionawr 2024 ymlaen, mae TrC yn atgoffa pobl na ddylai unrhyw bersonél sydd heb ganiatâd dresmasu ar y rheilffordd gan ei bod yn hynod o beryglus ac anghyfreithlon.

Bydd y gwasanaethau bws yn lle trên yn parhau i fod ar waith nes bydd y trenau teithwyr yn dechrau rhedeg eto o fis Chwefror 2024.

O fis Chwefror 2024, bydd TrC yn ailgyflwyno dau drên yr awr ar linell Treherbert, gyda disgwyl y bydd y trenau Metro newydd sbon yn dechrau ar eu gwaith yn Haf 2024.  

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Dyma garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau i gyflawni prosiect Metro De Cymru ar gyfer pobl De Cymru.  Rydym wedi uwchraddio rheilffordd Fictoraidd i linell drydanol fodern, ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn rhedeg trenau tram newydd sbon yn y dyfodol agos.

“Hoffwn ddiolch i'n holl gwsmeriaid a'n cymdogion rheilffordd am eu cefnogaeth a'u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid a dymuno Nadolig Llawen iddynt i gyd.  Yn 2024, bydd pobl yn dechrau gweld y manteision o lawer o'r gwaith sydd wedi'i wneud."   

Nodiadau i olygyddion


Gallwch ddysgu mwy am

Drawsnewid lein Treherbert line yn https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/trawsnewid-lein-treherbert

Ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru yn https://trc.cymru/prosiectau/metro

Llwytho i Lawr