Skip to main content

13 Mai 2022

Mae gwasanaethau rheilffyrdd bellach wedi ailagor ar reilffyrdd yn y cymoedd rhwng Pontypridd, Aberdâr a Radur ar ôl cwblhau tair wythnos o waith ar Fetro De Cymru.

Rhwng 17 Ebrill ac oriau mân 13 Mai, roedd Trafnidiaeth Cymru a’i bartneriaid yn gweithio bob awr o’r dydd i gwblhau gwaith peirianyddol hanfodol i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro.

Cyflawnwyd cerrig milltir pwysig yn ystod y gwaith, gan gynnwys gosod yr Is-orsaf fwyaf a’r gyntaf o saith i fwydo trydan i’r fflyd newydd o drenau a fydd yn rhedeg yn y dyfodol.  Roedd y timau hefyd wedi gosod cydrannau allweddol o’r cyfarpar trydaneiddio uwchben, yn ogystal â chyflawni gwaith arall ar y cledrau, y signalau a gwaith peirianneg sifil wrth i TrC symud yn nes at drydaneiddio’r llinell a chynnig teithio mwy cynaliadwy.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith y Rheilffyrdd yn TrC:

“Rydyn ni, ein timau a Metro De Cymru wedi cymryd camau breision. Rydyn ni nawr gam yn nes at ddarparu’r Metro i bobl Cymru.

“Mae’r gwaith seilwaith allweddol rydyn ni’n ei wneud ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd yn paratoi ar gyfer cyflwyno trenau tram newydd sbon dros y blynyddoedd nesaf.

“Fe hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n timau â’n partneriaid am eu hymdrechion dros y tair wythnos ddiwethaf ac i’n teithwyr a’r cymdogion sy’n byw ger y rheilffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled de Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.

Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth  Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Metro ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys erthygl blog yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am waith trawsnewid y Metro.

 

Llwytho i Lawr