02 Meh 2023
Mae gardd synhwyraidd a choffa newydd wedi’i hariannu gan Trafnidiaeth Cymru wedi agor yn Nhon Pentre i roi cymorth i gyn-filwyr lleol.
Mae’r ardd yn rhan annatod o ganolbwynt cymunedol Valley Veterans, gan gynnig cymorth iechyd meddwl a chymuned i gyn-filwyr. Sefydlwyd Valley Veterans dros 10 mlynedd yn ôl, i ddechrau fel grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer cyn-filwyr sy’n delio ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD), mae bellach yn helpu mwy na 140 o gyfranogwyr gweithredol. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan raglen Creu Cynefin Cymunedol TrC gyda chefnogaeth y Gynghrair ‘Crynicion’ ac mae’n dangos ymrwymiad TrC i ymgysylltu’n weithredol â chymunedau a’u helpu i ffynnu.
Eglurodd Paul Bromell, Prif Swyddog Gweithredol Valley Veterans, “Mae’r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i wneud wedi bod yn anhygoel. Mae pawb wedi dod at ei gilydd i adeiladu’r ardd ac mae’r cymorth a gawsom wedi bod yn wych. Rydyn ni wedi hyfforddi pobl yma i fynd allan i'r gymuned a helpu eraill; gwneud yn siŵr pryd bynnag y mae angen cymorth ar bobl, ei fod yma.”
Dywedodd Danielle Hopkins, Llysgennad Rheilffyrdd Cymunedol yn Trafnidiaeth Cymru, “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ni fel gweithredwr rheilffyrdd gael effaith ragweithiol yn y gymuned. Nid rhedeg gwasanaethau trafnidiaeth yn unig yr ydym; rydym yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac yn eu helpu i gyflawni eu nodau. Mae’r gwaith y mae Valley Veterans yn ei wneud yn chwarae rhan hanfodol yn y gymuned, ac rydym wrth ein bodd yn parhau i’w cefnogi.”
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg TrC, “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi’r cyfle i ni hyrwyddo cynaliadwyedd tra’n galluogi pobl i fyw a gweithio’n well a mwynhau eu gofodau. Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o’r prosiect ac mae wedi bod yn hyfryd gallu cydnabod yr holl waith sydd wedi’i roi yn yr ardd a chlywed yn uniongyrchol gan y bobl a fydd yn elwa ohono.”
Nodiadau i olygyddion
Partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Amey Infrastructure Wales, Alun Griffiths Ltd, Balfour Beatty a Siemens Rail sy’n darparu’r prosiect Trawsnewid Craidd y Cymoedd yw’r gynghrair.