08 Ion 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig heddiw gydag agoriad Canolfan Seilwaith Metro De Cymru.
Mae’r cyfleuster yn Nhrefforest, sef y ganolfan newydd lle bydd TrC yn cyflawni cam nesaf y gwaith o drawsnewid rheilffyrdd y cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, yn cynnwys cyfleusterau dosbarthu a swyddfeydd rheoli.
Mae’r rhan hon o brosiect Metro De Cymru wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Prifddinas Ranbarth Caerdydd ac Adran Drafnidiaeth y DU.
Bydd Canolfan Seilwaith y Metro yn hanfodol i ddarparu’r Metro ac i’w gynnal a’i gadw yn y dyfodol. Am y pum mlynedd gyntaf, bydd y ganolfan yn cael ei defnyddio yn bennaf fel canolfan dosbarthu deunyddiau ac ar ôl cam cyntaf y trawsnewid, bydd yn esblygu i fod yn ddepo cynnal a chadw tan ddiwedd cyfnod y contract gwasanaethau rheilffyrdd presennol.
Bydd y swyddfeydd rheoli prosiectau yn gartref i dros 200 o weithwyr, gan greu lleoliad canolog ar gyfer gwaith ar y Metro dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Dywedodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’n fraint cael agor Canolfan Seilwaith Metro Trefforest. Mae’n gam enfawr ymlaen ar gyfer Trafnidiaeth Cymru ac ar gyfer cyflawni cam nesaf Metro De Cymru. Mae Metro De Cymru yn mynd i drawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio yn Ne Cymru, gan ddarparu cyfleoedd cymdeithasol, busnes ac economaidd.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi tri chwarter biliwn o bunnoedd yng ngham nesaf Metro De Cymru a bydd y cyfleuster newydd hwn yn ganolog i’r cynnydd fydd yn cael ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a thu hwnt.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Drwy uno llwybrau trenau, bysiau a theithio llesol, bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru.
“Drwy ein buddsoddiad ni, bydd dros 170km o gledrau’n cael eu trydaneiddio, bydd cledrau a signalau’n cael eu huwchraddio a bydd cyfleusterau’n cael eu creu a’u gwella mewn gorsafoedd.
“Gan chwyldroi trafnidiaeth ar gyfer cymunedau lleol, bydd y cam hwn o Fetro De Cymru yn arwain at siwrneiau cyflymach, mwy o gapasiti, gwasanaethau amlach a mwy dibynadwy a bydd yn cynnig teithio mwy fforddiadwy.”
Ychwanegodd Kevin Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Mae agor Canolfan Seilwaith Metro Trefforest yn garreg filltir bwysig arall ar ein taith i drawsnewid trafnidiaeth ar gyfer pobl Cymru a chreu rhwydwaith y gall pobl ymfalchïo ynddo.
“Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn dechrau gweithio ar raglen drawsnewid ledled De Cymru. Gwaith tîm yw hyn; mae datblygu ein cynlluniau a’u cyflawni gyda’n gilydd yn gyffrous.”