Skip to main content

TfW Annual Report - Rail journeys up, rail revenue up and brand-new trains transforming Wales and Borders

23 Gor 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol 2024/25 ac mae ffigurau’n datgelu bod mwy o bobl yn defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd ac yn cael effaith gadarnhaol ar ffigurau refeniw’r sefydliad nid-er-elw.

Mae ffigurau allweddol o'r adroddiad yn cynnwys:

  • 31.7 miliwn o deithiau trên wedi’u gwneud gan gwsmeriaid – cynnydd o un rhan o bump o’i gymharu â’r llynedd;
  • Cynnydd o 17.8% yn refeniw’r rheilffyrdd i £174.8 miliwn;
  • 77.1% o deithiau wedi’u gwneud ar drenau newydd o 24 Mai 2025;
  • 1.2 miliwn o deithiau wedi’u gwneud ar gontractau bysiau TrawsCymru a redir gan TrC – cynnydd o 11.4% o’i gymharu â’r llynedd;
  • £47 miliwn o gyllid Teithio Llesol wedi'i ddosbarthu.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod ar daith drawsnewidiol ers iddynt gymryd drosodd y fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn 2018, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd sbon a buddsoddiad o dros £1 biliwn ym Metro De Cymru.

Mae trydaneiddio rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr wedi'i gwblhau eleni, gyda threnau newydd bellach yn darparu gwasanaethau gwell i gwsmeriaid.

Ers 2020, mae TrC wedi gosod dros 120km o geblau uwchben a 70km o geblau foltedd uchel wrth iddynt barhau i gyflawni prosiect Metro De Cymru.

Ym mis Tachwedd (2024), nhw oedd y cwmni trenau rheilffyrdd trwm cyntaf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gyflwyno system Talu Wrth Fynd newydd mewn 95 o orsafoedd ledled De Cymru. O fewn y tri mis cyntaf o'i chyflwyno, gwnaed dros 150,000 o deithiau gan ddefnyddio'r dechnoleg newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwyf wrth fy modd â'r cynnydd y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud wrth drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a darparu profiad gwell i gwsmeriaid. Mae teithwyr eisoes yn profi manteision gyda gwasanaethau mwy rheolaidd, trenau newydd a phrisiau gwell.

“Fodd bynnag, mae rhaglen gyffrous o’n blaenau o hyd, gan gynnwys masnachfreinio’r bysiau, datblygu Rhwydwaith Gogledd Cymru a chwblhau metro De Cymru. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i gysylltu cymunedau, hyrwyddo twf economaidd a chefnogi swyddi newydd.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol TrC: “Mae TrC wedi buddsoddi’n barhaus mewn trafnidiaeth gyhoeddus ers i ni lansio’n gyhoeddus yn 2018 ac rydym bellach yn dechrau elwa’n fawr o’r buddsoddiadau hyn gyda 31.7 miliwn o deithiau rheilffordd wedi’u gwneud rhwng 2024/25, gan arwain at gynnydd o 17.8% yn ein refeniw rheilffyrdd i £174.8 miliwn.

“Mae ein trenau newydd a’r newidiadau sylfaenol rydyn ni wedi’u gwneud i amserlenni rheilffyrdd er mwyn cynnig mwy o wasanaethau wedi ein galluogi i ddenu mwy o bobl i’n rhwydwaith.

“Ar draws ein rhwydwaith bysiau TrawsCymru rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid ac rydym wedi gallu addasu ein hamserlenni haf i ddiwallu’r galw tymhorol.

“Drwy ddosbarthu £47 miliwn ar gyfer prosiectau Teithio Llesol rydym wedi gallu ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwynio neu feicio ac mae hyn yn rhan allweddol o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl aml-foddol.”

Ychwanegodd Scott Waddington, Cadeirydd TrC: "Wrth i mi ddod i ddiwedd fy saith mlynedd fel Cadeirydd TrC, mae'n amserol myfyrio ar y cynnydd enfawr rydw i wedi'i weld yn ystod fy nghyfnod yn y rôl. Mae pobl Cymru bellach yn gweld manteision ein gwaith caled.

"Mae TrC wedi tyfu ac esblygu'n barhaus fel sefydliad ac mae ein buddsoddiad yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus bellach yn weladwy iawn ac yn helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru gan ddod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

"Mae trenau, bysiau a gwasanaethau wedi'u trydaneiddio newydd sbon bellach yma yng Nghymru a'r flwyddyn nesaf byddwn yn cyflwyno trenau tram i'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

"Hoffwn ddiolch i bawb yn TrC am eu hymroddiad a'u gwaith caled, ac edrychaf ymlaen at weld y sefydliad yn parhau i ffynnu."

Am yr adroddiad blynyddol llawn ewch i: https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/adroddiad-blynyddol-a-datganiadau-ariannol/2024-25 

Llwytho i Lawr