30 Gor 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol 2025/26 ac mae'r ffigurau'n dangos cynnydd parhaus yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r rhwydwaith bysiau maen nhw'n eu rheoli, gwell boddhad cwsmeriaid a chynnydd arall mewn refeniw rheilffyrdd.
Mae ffigurau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:
- Cynnydd o 8.9% mewn refeniw rheilffyrdd o'i gymharu â'r llynedd, gyda refeniw rheilffyrdd yn cynyddu'n raddol ers 2022/23. Eleni, roedd yn £190.3 miliwn
- 87.7% boddhad cwsmeriaid i fyny 3.3 pwynt canran ar y llynedd.
- 34.9 miliwn o deithiau teithwyr ar y trên (cynnydd blynyddol yn uwch na chyfartaledd diwydiant y DU)
- Cynnydd o 5.2% yn nifer y teithwyr ar wasanaethau TrawsCymru, a reolir gan Trafnidiaeth Cymru
Yn ogystal â chynyddu ffigurau teithwyr, mae Trafnidiaeth Cymru wedi parhau i gyflawni cerrig milltir seilwaith allweddol gyda chwblhau trydaneiddio 170km o Linellau Craidd y Cymoedd fel rhan o Fetro De Cymru ac agor Depo’r Goeden Cnau Ffrengig yn swyddogol yn Ffynnon Taf.
Cyrhaeddodd teithiau rheilffordd drwy docynnau talu wrth fynd 3.94 miliwn yn 2025/26 ac mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflwyno hyn ar fwy o'n rhwydwaith, sydd ar hyn o bryd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae perfformiad trenau ar Linellau Craidd y Cymoedd (sy'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru) wedi parhau i wella gyda 92.6% o drenau yn rhedeg ar amser i dri munud, sydd i fyny o 85.7% yn 2024/25.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper: "Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith eithriadol o dda wrth wella profiadau teithwyr ledled Cymru, sy'n sylfaen wych i ni adeiladu arni i barhau i symud i'r cyfeiriad cywir.
"Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig a chysylltiedig yn well - gan ddarparu gwasanaethau dibynadwy, hygyrch a gwerth am arian sy'n gwella bywydau beunyddiol pobl ledled Cymru."
Dywedodd Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru: "Mae trafnidiaeth yn ymwneud â chyflawni ar gyfer y bobl, y cymunedau a'r busnesau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
"I Trafnidiaeth Cymru, mae hon wedi bod yn flwyddyn o welliant cyson a pharhaus mewn trafnidiaeth ac o osod y sylfaen ar gyfer cynnydd pellach. Rydym yn sylweddoli bod llawer mwy i'w wneud. Bydd hyn o fudd i bobl ym mhob rhan o Gymru am genedlaethau i ddod.
"Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau ac mae boddhad cwsmeriaid yn cynyddu. Edrychwn ymlaen at barhau ar y llwybr hwn a chyflawni ar gyfer pobl Cymru."
Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: "Ddeng mlynedd yn ôl, roedd Trafnidiaeth Cymru yn syniad ar fwrdd gwyn mewn swyddfa Llywodraeth Cymru.
"Rydym bellach yn gwmni trafnidiaeth llawn sy'n cyflogi dros 4,500 o bobl ac yn rhedeg masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Rydym wedi trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd drwy ddarparu Metro De Cymru ac rydym yn gweithredu bysiau TrawsCymru a fflecsi.
"Yn bwysicaf oll, mae ein niferoedd teithwyr yn parhau i dyfu, gyda'n niferoedd teithwyr rheilffyrdd i fyny 9.9% o'i gymharu â'r llynedd tra bod nifer y teithwyr bysiau ar wasanaethau rydyn ni'n eu rheoli wedi tyfu dros 5%.
"Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn parhau i adeiladu a darparu ar gyfer pobl Cymru.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid sydd ar y daith hon gyda ni."
Am yr adroddiad blynyddol llawn ewch i: Adroddiad blynddol 2025/26 | Trafnidiaeth Cymru