Skip to main content

Refurbishment of Cardiff Central set to continue with brand new ticket gates

04 Tach 2019

Mae clwydi tocynnau YCHWANEGOL yn cael eu gosod yng Nghaerdydd Canolog fel rhan o gyfres o waith sy’n digwydd er mwyn gwella’r orsaf ar gyfer cwsmeriaid.

Wrth ragweld y bydd niferoedd cwsmeriaid yn codi o 13 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd i 34 miliwn erbyn 2043, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo o wneud teithio drwy’r orsaf mor hawdd â phosib.

Mae’r llinell clwydi tocynnau presennol yn y brif dderbynfa flaen yn cael ei huwchraddio dros y pythefnos nesaf.

Bydd y cynlluniau’n gweld symud y glwyd docynnau bresennol i’r brif dderbynfa, a gosod tair clwyd ychwanegol er mwyn rhoi mwy o le i bobl sy’n dod allan o’r danffordd, a golygu llai o amser yn aros mewn llinell i fynd i mewn neu allan o’r orsaf.

Yn ystod y gwaith, a ariennir yn gyflawn gan Drafnidiaeth Cymru, bydd rhai cyfnodau pan fydd yn rhaid gwirio tocynnau â llaw.

Dangosodd astudiaethau manwl o lif cwsmeriaid fod dros 100 o bobl bob munud yn pasio i mewn neu allan o’r orsaf yn ystod y cyfnod prysuraf. Bob dydd, bydd rhyw 23,000 o bobl yn mynd drwy’r prif glwydi tocynnau blaen, a gall y ffigwr godi uwchlaw 40,000 ar ddiwrnod pan fydd digwyddiad mawr.

Y flwyddyn nesaf, rhagwelir y bydd niferoedd teithwyr yn yr orsaf yn codi gan 8.3%.

Meddai Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru Colin Lea: “Pan fyddwch chi’n cyrraedd gorsaf, y peth diwethaf fyddwch chi eisiau yw cael eich dal mewn ciw hir i fynd i mewn neu allan.

“Am mai hi yw ein gorsaf brysuraf, mae Caerdydd Canolog yn gweld niferoedd enfawr o gwsmeriaid yn mynd drwyddi bob dydd. Rydym ni eisiau gwneud yr orsaf mor groesawgar a hawdd mynd iddi â phosib. Felly, dros y 18 mis nesaf, byddwn ni a’n partneriaid yn Network Rail yn gwneud gwaith sylweddol. Rydym ni eisoes wedi rhoi glanhaead dwfn i’r orsaf, ei phaentio a’i gwella gan gynnwys yr isffyrdd, drwy osod golau mwy llachar.

“Y gwaith hwn ar linell y glwyd yw’r cam nesaf, ac wedyn gosodir peiriannau tocynnau newydd sbon ym mis Rhagfyr, a chreu lle newid hollol hygyrch yn y tŷ bach hygyrch. Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, cyn i ni gyflwyno cynlluniau cyffrous ar gyfer y tymor hirach, sydd wrthi’n cael eu datblygu.”

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gam tri o waith uwchraddio Caerdydd Canolog, a bydd hefyd yn cynnwys:

  • Peiriannau tocynnau newydd sbon – yn dechrau ym mis Rhagfyr, ac yn gwerthu ystod ehangach o docynnau.
  • Gwefru ffonau mewn ystafelloedd aros
  • Mwy o le storio beiciau (cylchynnau) a seddau ar y platfform
  • Adnewyddu’r toiledau a chreu cyfleuster Lle Newid penodol yn y tŷ bach anabl.
  • Sgriniau Gwybodaeth Cwsmeriaid ychwanegol o gwmpas yr orsaf.

Meddai Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Cymru Bill Kelly: “Mae Caerdydd Canolog yn borth pwysig i brifddinas ein gwlad ac wrth i’r ardal gyfagos gael ei thrawsnewid gan ddatblygiadau newydd cyffrous, mae’n arbennig o bwysig fod gorsaf brysuraf Cymru’n edrych ar ei gorau. Y llynedd, fe wnaethon ni fuddsoddi drwy wneud gwaith glanhau arbenigol ar garreg Portland ffrynt Caerdydd Canolog, ac adnewyddu’r tŵr cloc eiconig. Rydym ni hefyd wedi gweithio i gynyddu gallu’r allanfeydd draenio ar y to, er mwyn helpu’r orsaf i allu gwrthsefyll y tywydd yn well.

“Nawr, rydym ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Nhrafnidiaeth Cymru ar gynlluniau i wella amgylchedd yr orsaf ymhellach – canolbwyntio ar wneud prif isffordd yr orsaf yn amgylchedd llawer gwell ar gyfer teithwyr sy’n defnyddio’r orsaf.”

CardiffCentralRain

Nodiadau i olygyddion


Mae camau 1 a 2 bellach wedi’u cwblhau, gan olygu gorffen y canlynol:

  • Cyflogi pedwar llysgennad newydd a staff ychwanegol i helpu cwsmeriaid ar eu taith
  • Mae Network Rail wedi cynnal gwaith glanhau arbenigol i garreg yr adeilad, wedi gwella draenio ar y to ac wedi adnewyddu tŵr y cloc yn rhagorol
  • Rhaglen o lanhau trylwyr
  • Biniau ychwanegol i gadw’r orsaf yn daclus gan gynnwys ailgylchu haws
  • Paentio’r isffyrdd a’r grisiau
  • Golau mwy llachar ac arwyddion gwell
  • Mwy o seddau yn y swyddfa docynnau