Skip to main content

Transport for Wales pledge support to Armed Forces

26 Chw 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo helpu’r gymuned lluoedd arfog trwy lofnodi ymrwymiad i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Mae’r cytundeb yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu, ac wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn eu cymunedau, yr economi a chymdeithas wrth roi o’u bywydau i eraill.

Fel rhan o’r adduned, bydd Trafnidiaeth Cymru’n sicrhau na fydd aelod o’r lluoedd arfog yn wynebu unrhyw anfantais yn ystod proses recriwtio, ac y gallai triniaeth arbennig fod yn briodol dan rai amgylchiadau, yn enwedig ar gyfer y clwyfedig neu’r rheiny mewn galar.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n awyddus i hyrwyddo’r ffaith ei fod yn sefydliad cynhwysol, ac mae’r ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn brawf arall o hyn.

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac rydym wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac yn ymrwymo iddo.

“Rydym yn sefydliad agored a thryloyw, yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi gwerth £5 biliwn i weddnewid trafnidiaeth y genedl. Rydym yn dal i dyfu a recriwtio, ac yn croesawu ymgeiswyr o’r lluoedd arfog a ddaw â chyfoeth o sgiliau galwedigaethol a phrofiad gyda nhw.”

Ychwanegodd Marie Daly, Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu Trafnidiaeth Cymru:

“Fel cyflogwr, rydyn ni’n cydnabod gwerth milwyr sy’n dal i wasanaethu, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i’n busnes a’n gwlad. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu dros ein gwlad ac yn falch o anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Career Transition Partnership (CPT) ac eraill er mwyn cefnogi cyflogaeth cyn-filwyr a phartneriaid milwyr gyda gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru, a hybu cyflogi gweithwyr o’r diwydiant amddiffyn ledled y diwydiant rheilffyrdd ehangach.”

Meddai Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen y Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Fel cyn-filwyr a wasanaethodd am 14 o flynyddoedd, rwy’n falch o gefnogi addewid Trafnidiaeth Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Dyma gyfle i elwa ar gronfa o unigolion medrus, dawnus ac ymroddedig o’r lluoedd arfog, er mwyn helpu Trafnidiaeth Cymru i drawsnewid trafnidiaeth y genedl."