15 Gor 2019
Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi bod 60 o swyddi newydd wedi eu creu wrth i’r cwmni barhau â'i raglen fuddsoddi gwerth £5 biliwn i drawsnewid y sector trafnidiaeth ledled ei rwydwaith Cymru a'r Gororau.
Rhan bwysig o'r cynlluniau yw datblygu Metro De Cymru - rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig aml-foddol a fydd yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, gwasanaethau bws lleol a theithio llesol.
Bydd Gwasanaethau Trenau Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am reoli asedau seilwaith rheilffyrdd, adnewyddu a rheoli gweithrediadau asedau o ddydd i ddydd am y 14 mlynedd nesaf, yn weithredol o'r hydref eleni, ac felly mae’n dymuno cynyddu ei dîm gan gynnig 60 o swyddi newydd yn ei gyfleuster newydd yn Ystad Trefforest. Mae’n chwilio am unigolion medrus a phrofiadol ar gyfer amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys Peirianwyr, Gweithredwyr, Staff Gweinyddol a Rheolaethol.
I bawb sydd â diddordeb, bydd Diwrnod Agored ar 16 Gorffennaf yng ngwesty Radisson Park Inn ar Heol Mary Ann yng Nghaerdydd, rhwng 8.30 a 17.30.
Dywedodd Simon Rhoden, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Seilwaith Gwasanaethau Trenau Trafnidiaeth Cymru:
“Bydd Metro De Cymru yn chwyldroi trafnidiaeth ar gyfer cymunedau lleol ac yn gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth o swyddi medrus yn ein tîm seilwaith ac yn croesawu ceisiadau. Mae'n wych bod yn rhan o weithrediadau a chynnal a chadw parhaus rheilffordd Cymoedd Caerdydd, lle’r ydym yn trawsnewid y rhwydwaith a fydd nid yn unig yn gwella bywydau pobl yng Nghymru ond a fydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid y sector trafnidiaeth yng Nghymru, drwy weithredu ein rhaglen fuddsoddi sy'n werth £5 biliwn. Mae trafnidiaeth yn hanfodol i'r economi yng Nghymru, ac wrth i ni ddatblygu ein Metro De Cymru sy’n werth £738 miliwn, rydym yn darparu cyfleoedd gwaith ar gyfer unigolion medrus yn ein tîm Gwasanaethau Trenau.
“Byddwn yn annog pobl i droi at y wefan am ragor o wybodaeth neu ddod i'r Diwrnod Agored ar 16 Gorffennaf.”