24 Gor 2026
Mae ymgyrch diogelwch rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyflwyno gweithdai addysg diogelwch rheilffyrdd i 50,000 o ddisgyblion, gan gyfrannu at ostyngiad o 23% mewn digwyddiadau tresmasu ar draws llinellau Metro De Cymru.
Wedi'i lansio yn haf 2023, cynlluniwyd yr ymgyrch Dim Ail Gyfle i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a thresmasu ar y rheilffordd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Wrth wraidd yr ymgyrch mae neges syml; gall dillad gael ail fywyd. Ni all pobl.
Daw'r garreg filltir ar ôl i Trafnidiaeth Cymru gwblhau gosod 281.5 milltir o wifrau llinell uwchben byw (OLE) yn ddiweddar, sy'n cario 25,000 folt ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd, sy'n golygu bod tresmasu ar y rheilffordd bellach yn cario risg angheuol.
Drwy gyfuno gwyddor ymddygiadol ag adrodd straeon i wneud i ganlyniadau ymddygiad anniogel deimlo’n real, mae TrC yn atgyfnerthu ei neges cyn misoedd yr haf, gan annog y cyhoedd i gadw draw oddi ar y traciau ac aros yn ddiogel.
Dywedodd Kelsey Barcenilla, Rheolwr Ymgysylltu Trafnidiaeth Cymru: "Mae ymgysylltu’n uniongyrchol â 50,000 o ddisgyblion drwy weithdai yn yr ysgolion yn garreg filltir arwyddocaol ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch rheilffyrdd ar draws ein cymunedau, yn enwedig y grŵp oedran yr ydym yn gweld tresmasu fwyaf cyffredin.
“Ochr yn ochr â’n rhaglen llawer ehangach o ddigwyddiadau cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol a gwaith gyda llysgenhadon, rydym wedi cyflawni gostyngiad o 23% mewn disgwyddiadau tresmasu ar Linellau Craidd y Cymoedd.
"Mae hyn yn dangos y newid ymddygiad cadarnhaol rydym yn ei gyflawni, ond byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid a'n cymunedau i hybu ymwybyddiaeth a gwneud ein rheilffordd yn fwy diogel i bawb. Os oes unrhyw ysgolion ar draws y rhanbarth Caerdydd a Chymoedd De Cymru heb gael ein tîm yn ymweld ac yn cyflwyno’r gweithdai hyn eto, rydym yn eich annog i gysylltu"
Mae'r rhaglen addysgol o weithdai yn yr ysgol i blant 11 i 15 oed wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Bollo, darparwr addysgol a sector cyhoeddus, ac mae wedi bod yn allweddol wrth ddod â negeseuon yn uniongyrchol i ystafelloedd dosbarth ledled De Cymru.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cwmni Bollo, Pete Walsh: “Rydym wedi cael y fraint o allu cyflwyno’r gweithdai hyn ar ran Trafnidiaeth Cymru a gweld yn uniongyrchol yr effaith y maent ei chael.
“Yn aml iawn, mae llawer o ddisgyblion yn ymddangos yn amheus a hyd yn oed fel eu bod yn gwrthwynebu’r pwnc ychydig wrth fynd i mewn i’r sesiynau ond erbyn diwedd, mae’n eithaf amlwg bod pob disgybl yn cytuno â’r negeseuon diogelwch.
“Mae adborth staff yn yr ysgolion bob amser yn tynnu sylw at ba mor effeithiol yw’r cynnwys a’r arddull cyflwyno ar gyfer ymgysylltu â’r disgyblion gwneud iddynt sylweddoli peryglon bywyd go iawn Offer Llinellau Uwchben a’r rheilffyrdd."
Nodiadau i olygyddion
Mae'r ymgyrch yn cysylltu â phobl ifanc drwy weithgareddau creadigol gan gynnwys profiadau dros dro, ymgyrchoedd cymdeithasol wedi'u targedu a gweithdai ysgol.
Chwaraeodd partner creadigol Trafnidiaeth Cymru, Golley Slater, ran hanfodol wrth lunio'r ymgyrch a helpodd Trafnidiaeth Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd iau yn effeithiol.
Mae eu gwaith gyda dylanwadwyr wedi bod yn arbennig o bwysig, gan sicrhau bod negeseuon diogelwch yn cael eu cyflwyno mewn lleisiau dilys ar draws llwyfannau fel TikTok ac Instagram. Mae'r dull hwn wedi helpu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd na ellid eu cyrraedd trwy sianeli traddodiadol yn unig, gan greu ymgysylltiad a gwelededd cryf.
Mae cyrraedd 50,000 o ddisgyblion yn garreg filltir bwysig oherwydd ei fod yn tynnu sylw at raddfa'r newid ymddygiad sy'n cael ei yrru mewn cymunedau ledled Cymru. Mae pob disgybl a gyrhaeddir yn gam arall tuag at deithiau mwy diogel ac yn atgof o'r effaith y gellir ei chyflawni pan gyfunir mewnwelediad, creadigrwydd a chydweithio.
Mae rhannau penodol o'r rheilffordd, gan gynnwys gorsafoedd, isffyrdd, a chroesfannau ar agor i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae tresmasu yn drosedd, a gall throseddwyr wynebu achos llys a dirwy o hyd at £1,000.