Skip to main content

48 railway stations across Wales set to receive new Help Points

04 Medi 2026

Bydd gorsafoeddrheilffordd ledled Cymru yn elwa o fuddsoddiad o £1 miliwn drwy Bwyntiau Cymorth newydd sbon mewn 48 o leoliadau gwahanol, gan roi mynediad at gymorth teithio byw a gwybodaeth amser real i deithwyr. 

Wedi'i gynllunio i roi hyder i gwsmeriaid yn enwedig yn ystod cyfnodau o aflonyddwch, bydd y Pwyntiau Cymorth yn cysylltu galwyr yn uniongyrchol â Reolwyr Gwybodaeth Cwsmeriaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. 

Wedi'u lleoli ar blatfformau gorsafoedd neu gynteddau, mae Pwyntiau Cymorth yn gweithio wrth wasgu botwm a gellir eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion, o wirio amseroedd trenau i ofyn am gymorth neu roi gwybod am broblem, ac mae'r rhan fwyaf o Reolwyr Gwybodaeth Gwsmeriaid yn siarad Cymraeg. 

Bydd y broses gyflwyno yn canolbwyntio ar orsafoedd heb staff, lleoliadau â gwasanaethau trên llai aml ac ardaloedd lle mae signal rhwydwaith symudol (4G a 5G) yn gyfyngedig. 

Dywedodd Teleri Evans y Rheolwr Gwybodaeth i Gwsmeriaid ar gyfer trafnidiaeth Cymru, a ddatblygodd y Strategaeth Pwyntiau Cymorth: "Rydym am i gwsmeriaid deimlo'n ddiogel, yn hyderus ac yn gysylltiedig pan fyddant allan ar ein rhwydwaith. 

"Er bod nifer o ffyrdd o ddarganfod beth sy'n digwydd gan gynnwys ein gwefan, sianeli gwybodaeth cwsmeriaid a'r sgriniau gwybodaeth rydyn ni'n gweithredu ym mhob gorsaf, rydyn ni'n gwybod bod angen i ni wneud mwy. 

"Does dim byd gwaeth na bod mewn gorsaf a pheidio â gwybod beth sy'n digwydd yn ystod aflonyddwch. Felly rydyn ni'n ymrwymo i osod y Pwyntiau Cymorth hyn, gan ddechrau gyda'r gorsafoedd hynny gyda signal ffôn cyfyngedig a'r rhai a oedd â ffonau talu BT yn flaenorol." 

Yn ogystal ag ehangu rhwydwaith y Pwyntiau Cymorth, bydd y prosiect hefyd yn gweld pum gorsaf yng ngogledd Cymru yn cael eu Pwyntiau Cymorth yn cael eu disodli gan sicrhau bod cymorth dwyieithog ar gael ar draws y rhwydwaith cyfan. 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli 248 o orsafoedd ledled Cymru a'r ffiniau, ond ar hyn o bryd maellai na hanner gyda Pwyntiau Cymorth. 

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Adam Zak: "Mae gosod pwyntiau cymorth newydd yn ymgymeriad mawr ac rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid yn Network Rail i sicrhau bod y prosiect yn gallu mynd yn ei flaen yn esmwyth. Rydym yn disgwyl cael rhai dyddiadau wedi'u cadarnhau yn ystod y misoedd nesaf ac i ddechrau'r gwaith y flwyddyn ariannol hon." 

Nodiadau i olygyddion


  • Mae'r mwyafrif o'r Rheolwyr Gwybodaeth i Gwsmeriaid yn siarad Cymraeg, fodd bynnag, os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn ceisio eich cysylltu â Rheolwr Gwybodaeth Cwsmeriaid arall sydd â sgiliau siarad Cymraeg. 
  • Nid yw pwyntiau cymorth ar gyfer defnydd brys yn unig ac rydym yn annog cwsmeriaid i'w defnyddio i'w helpu gyda'u taith os oes angen.Bydd galwadau niwsans yn cael eu terfynu ar unwaith. 
     
  • Yn ôl yr ORR (Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd), roedd Teithwyr yn defnyddio pwyntiau cymorth yn bennaf i gael mynediad at wybodaeth i deithwyr, megis darganfod pryd mae'r trên nesaf (49% o alwadau), ac fe'u defnyddiwyd hefyd o bryd i'w gilydd i ofyn am gymorth i deithwyr (0.3%) neu riportio argyfwng (0.04%). Atebwyd y rhan fwyaf o'r galwadau hyn o fewn 30 eiliad. Mae'r ffigurau'n awgrymu nad yw pwyntiau cymorth yn brif lwybr y byddai'r rhan fwyaf o deithwyr yn dewis cael mynediad at y wybodaeth neu'r cymorth sydd ei angen arnynt. 
  • Serch hynny, mae pwyntiau cymorth yn gefn pwysig i deithwyr pan nad yw ffyrdd eraill o gael yr hyn sydd ei angen arnynt ar gael. Er mwyn i bwyntiau cymorth gyflawni'r diben hwnnw, a lle mae diwydiant wedi dewis buddsoddi yn y darpariaeth o'r gwasanaeth hwn, rhaid iddynt fod yn gweithio. 

Dyma'r rhestr o orsafoedd i dderbyn Pwyntiau Cymorth ym mlwyddyn ariannol 2026/26: 

  • Rhydaman
  • Glanyfferi
  • Cydweli
  • Cilgeti
  • Llandyfái
  • Llandeilo
  • Llanymddyfri
  • Llangadog
  • Maenorbŷr
  • Arberth
  • Penfro
  • Doc Penfro
  • Pont-y-clun
  • Saundersfoot
  • Shotton
  • Dinbych-y-Pysgod
  • Hendy-Gwyn ar Daf
  • Bangor
  • Conwy
  • Garth (Morgannwg)
  • CyfforddLlandundo
  • Llanhilledd
  • LlanilltudFawr
  • Maesteg
  • Porthmadog
  • Pwllheli
  • Y Pîl
  • Y Rhws
  • Sarn
  • Sgiwen
  • Tondu
  • Tonfanau
  • Bodorgan
  • Clarbeston Road
  • Dolau
  • Dyffryn Ardudwy
  • Caergybi
  • Cnwclas
  • FforddLlanbister
  • Llandanwg
  • Llandecwyn
  • Llandybïe
  • Llangynllo

Rydym hefyd yn adnewyddu'r pwyntiau cymorth sydd wedi dod i ben yn yr ardaloedd hyn yng Ngogledd Cymru hefyd: 

  • Prestatyn
  • Abergele a Phensarn
  • Bae Colwyn
  • Caergybi
  • Conwy

Llwytho i Lawr