11 Meh 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwneud beicio yn opsiwn hyfyw i gymunedau ledled Cymru trwy ddarparu storfa ddiogel trwy ei brosiect Storfeydd Beiciau llwyddiannus.
Yr wythnos hon (8 - 14 Mehefin 2026) yw Wythnos y Beic, dathliad beicio mwyaf y DU a chyfle i ddangos sut y gall beicio wneud bywyd bob dydd yn well i bobl a chymunedau ledled y wlad.
Mae storfeydd beiciau wedi'u cynllunio i ddarparu datrysiad parcio beiciau diogel, ac mae TrC wedi gosod 40 o storfeydd beiciau ar draws saith cymdeithas dai wahanol ac wyth ardal awdurdod lleol fel rhan o gam un o'u Prosiect Storfeydd Beiciau.
Gweithiodd TrC yn agos ochr yn ochr â chymdeithasau tai penodol a gynigiodd y safleoedd yn dilyn mynegiant cychwynnol o ddiddordeb a gyhoeddwyd. Yna cynhaliodd TrC ymweliadau safle ar y cyd i werthuso pob lleoliad i sicrhau'r ffit gorau ar gyfer y storfeydd beiciau a'r cymdeithasau tai.
I lawer o drigolion, mae'r storfeydd newydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau.
Dywedodd Ronald Olden, tenant Grŵp Cynefin: “Collais rywfaint o fy ngolwg ar ôl strôc ac ni allaf yrru mwyach. Mae’r storfa hon yn golygu y gallaf gadw beic yn ddiogel, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini."
Gall pob sied barcio chwe beic yn ddiogel ac mae wedi’i gyflwyno i’r cymdeithasau tai canlynol:
- Beacon Cymru (Abertawe)
- Tai Caerdydd (Caerdydd)
- Clwyd Alyn (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam)
- Grŵp Cynefin (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys)
- Cartrefi Cymoedd Merthyr (Merthyr Tudful)
- Tai Wales and West (Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam)
- YMCA (Caerdydd)
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper AS: "Mae beicio yn un o'r ffyrdd mwyaf fforddiadwy, iach a chynaliadwy y gall pobl deithio o gwmpas.
“Mae sicrhau bod gan bawb fynediad at le storio diogel yn rhan hanfodol o wneud hynny'n opsiwn ymarferol. Mae'r storfeydd beiciau newydd hyn ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i'w gwneud hi'n haws i bobl feicio.
“Wrth i ni nodi Wythnos y Beic, mae'n wych gweld y prosiect yma eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac rwy'n falch iawn y bydd cam dau yn ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd Nicola Grima, Arweinydd Rhaglen Cyflenwi Teithio Llesol: "Rydym mor falch o fod wedi cwblhau cam un o'n prosiect Storfeydd Beiciau ochr yn ochr â llawer o gymdeithasau tai o fewn gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru.
“Mae diffyg parcio beiciau diogel yn rhwystr i bobl ddewis beicio ar gyfer teithiau bob dydd, felly mae darparu parcio beiciau diogel yn ffordd o oresgyn y rhwystr hwn. Mae gan Gymru seilwaith cerdded a beicio gwych ac rydym am i gynifer o bobl â phosibl ei ddefnyddio.”
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau bod Cam 2 y prosiect eisoes yn cael ei ddatblygu. Yn y cam nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn partneru â saith cymdeithas dai, gan groesawu dau ddarparwr newydd i'r cynllun. Mae Trafnidiaeth Cymru ar fin darparu 40 o storfeydd diogel newydd ar draws 10 ardal awdurdod lleol, gan fynd â'r prosiect i bedwar rhanbarth newydd am y tro cyntaf
Nodiadau i olygyddion
- Mae prosiect Storfeydd Beiciau yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru
- Cyclehoop oedd y cyflenwr ar gyfer cam un
- Bikedok yw'r cyflenwr ar gyfer cam dau