12 Medi 2025
Mae pobl sy'n dwlu ar fwyd ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd un o wyliau bwyd gorau Prydain.
Cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni ar 20 a 21 Medi.
Mae'r Ŵyl yn croesawu rhai o sêr mwyaf disglair y byd bwyd gyda 180 o arddangoswyr a rhaglen o arddangosiadau gan gogyddion, sgyrsiau ac adloniant i'r teulu cyfan.I gefnogi'r digwyddiad, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig bws gwennol rheolaidd am ddim o orsaf reilffordd y dref yn uniongyrchol i'r ŵyl ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul.
Mae gan y Fenni drenau uniongyrchol rheolaidd o Gaerdydd, Casnewydd, Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Henffordd, Llwydlo, Llanllieni, Amwythig a thu hwnt.
Dywedodd Helen Witherspoon, Pennaeth Cynllunio Gweithredol TrC: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cwsmeriaid ar gyfer Gŵyl Fwyd y Fenni ar ein gwasanaethau.
Fel rhan o’n cynllunio rydym wedi gallu darparu bws gwennol am ddim rhwng yr orsaf a’r ŵyl i wneud defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyd yn oed yn fwy deniadol i gwsmeriaid.
“Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac rydyn ni’n herio ein hunain yn barhaus i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyl Fwyd y Fenni, Lucie Parkin: “Rydym am annog pobl i deithio’n gynaliadwy a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
“Bydd bysiau gwennol dwyffordd rheolaidd rhwng yr orsaf reilffordd a gorsaf fysiau canol y dref yn fantais enfawr i ymwelwyr sy’n siopa yn stondinau marchnad yr Ŵyl.”
Am docynnau trên a chynllunio teithiau, cliciwch yma: https://trc.cymru/cynllunio-taith
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Fwyd y Fenni ac i brynu tocynnau, cliciwch yma: https://www.abergavennyfoodfestival.com/
Nodiadau i olygyddion
© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2025) Cymru Wales