02 Meh 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â'r band byd-enwog Coldplay i hyrwyddo teithio cynaliadwy.
Bydd Coldplay yn perfformio yn Stadiwm Principality ar Fehefin 6 a 7 yr wythnos nesaf fel rhan o'u Taith Byd ‘Music of the Spheres’ ac maent wedi partneru â TrC i annog teithiau trên cynaliadwy i Gaerdydd.
Mae TrC yn cynnig 100 o docynnau rheilffordd dychwelyd am ddim i Gaerdydd ar gyfer yr achlysur arbennig ac os hoffai cwsmeriaid gymryd rhan yn y raffl am ddim gallant gofrestru ar trc.cymru/coldplay.
Bydd Coldplay yn hyrwyddo'r cynnig i'w holl gefnogwyr gan eu bod yn rhannu'r un angerdd â TrC bod eisiau annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru:
“Yn TrC rydym yn angerddol dros drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ac annog pobl i deithio'n fwy cynaliadwy.
“Rydym wedi buddsoddi mewn trenau newydd sbon ac maent wedi dechrau ar eu gwaith ar ein rhwydwaith. Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu Metro De Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus gyflymach, glanach a mwy effeithlon.
“Mae'n wych bod band byd-enwog fel Coldplay yn rhannu'r un angerdd am drafnidiaeth gynaliadwy â ni ac rydym yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ennill tocyn ar gyfer taith dwyffordd i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad.”