24 Awst 2023
Y gyffordd ger Heol Ystrad / Heol Tyisaf, Pentref y Gelli
Penwythnos dwythaf, wnaeth ein partneriaid - Morrison Energy Services (ar ran Wales & West Utilities) – dechrau gwaith yn eich ardal i osod prif bibell nwy newydd fel rhan o'n gwaith yn trawsnewid y rheilffyrdd ar Linell Treherbert, sy'n ein galluogi i ddyblu'r trac yn yr ardal hon.
Yn anffodus, ni chafodd y gwaith hwn ei gwblhau fel yr oeddem wedi gobeithio, oherwydd nifer o faterion a ganfuwyd gan ein timau safle, megis cyfleustodau a gwasanaethau anhysbys. Cyn gynted ag yr oeddem yn ymwybodol o'r materion hyn fe wnaethom gau'r safle a dileu rheolaeth traffig, gan ailagor y ffordd.
Bydd gwaith yn ailddechrau'r penwythnos nesaf - dydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Awst - eto, o fewn cyffordd Heol Ystrad/Heol Tyisaf. Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith ymchwilio manwl i'n helpu i lunio cynllun ar gyfer y prif waith nwy.
Er mwyn i'r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel, bydd angen:
- - gosod rheolfeydd traffig ar Ffordd Ystrad (A4058). Bydd hyn yn golygu y bydd y traffig ar ran fer o'r lôn gerbydau i gyfeiriad y gorllewin ar gyffordd Ffordd Tyisaf yn cael ei reoli gan fyrddau oedi / mynd yn ystod y dydd a goleuadau traffig dros nos
- - cau'r gyffordd ger Ffordd Tyisaf a dargyfeirio defnyddwyr y ffordd. Bydd arwyddion ar waith ar gyfer hyn, a fydd yn dargyfeirio traffig ar hyd Ffordd y Gelli a Heol yr Eglwys (B4223)
- -
Mae'r llun isod yn dangos lle byddwn yn cynnal y gwaith. Gan y bydd angen gwneud gwaith cloddio dwfn, ni fydd modd i unrhyw gerbyd fynd dros yr ardal waith. Felly, bydd yn rhaid i gerbydau gwasanaethau brys hefyd ddilyn y dargyfeiriadau fydd ar waith.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd yn rhaid i ni wneud diwygiadau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal yn ystod y dyddiau a nodir uchod. Gwasanaeth bws 130 Stagecoach fydd yn gwasanaethu'r Gelli a Thon Pentre ar hyd Ffordd Nantwyddion a gwasanaeth 120 Stagecoach fydd yn gwasanaethu Llwynypia ac Ystrad.
Bydd y llwybrau troed yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn. I gael mynediad rhwng Ffordd Tyisaf a Ffordd Ystrad, dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio’r llwybr gyferbyn neu ddilyn y dargyfeiriad.
Diolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi i chi. Yn dilyn ymchwiliadau'r penwythnos hwn, byddwn yn gweithio'n agos gyda pheirianwyr a chynllunwyr i benderfynu ar gynllun gweithredu ar gyfer gwaith yn y dyfodol, a fydd yn cael ei raglennu i leihau aflonyddwch cymaint â phosibl. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr y gymuned a'r ffyrdd am unrhyw waith yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Mae ein tîm ar gael i ateb eich cwestiynau, felly ffoniwch ni ar 033 33 211 202 (0800 -2000 ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 1100 -2000 ar ddydd Sul). Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gael yr wybodaeth mewn fformat gwahanol, ewch i trc.cymru/cysylltu-a-ni
Gallwch ddysgu mwy am ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru trwy ymweld â trc.cymru/prosiectau/metro/ , ac am ein gwaith yn adeiladu'r Metro yn trc.cymru/prosiectau/metro/adeiladu-ein-metro .
Yr eiddoch yn gywir,
Tîm Ymgysylltu Cymunedol Trafnidiaeth Cymru