13 Chw 2026
Yn Trafnidiaeth Cymru, mae prentisiaethau’n cynnig cyfle i bobl feithrin hyder, darganfod cryfderau newydd a chymryd eu camau cyntaf tuag at yrfaoedd hirdymor.
Dau gydweithiwr sydd wedi profi hyn yn uniongyrchol yw Finley a Keiran, a ymunodd â TrC fel prentisiaid ac sydd, ers hynny, wedi symud ymlaen i rolau parhaol o fewn y sefydliad.
Ymunodd Finley â TrC ddwy flynedd yn ôl, gan ddechrau fel Prentis Cydlynydd Cynaliadwyedd cyn symud i rôl Cydlynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Eglurodd Finley, “Roeddwn i’n ymwybodol o Trafnidiaeth Cymru fel cwmni trenau, ond ar ôl gweld y nifer fawr o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, fe ddechreuais i weld Trafnidiaeth Cymru mewn ffordd wahanol. Nid yw llwybrau i gynaliadwyedd fel arfer yn cael eu cynnig gan gyflogwyr… mae’r maes yn eithaf sbesiffig.”
Dechreuodd Keiran, sydd bellach yn Ddadansoddwr Risg, y daith fel prentis hefyd. Cafodd Keiran ei ddenu at natur ymarferol y rôl, gan ddweud, “Roeddwn i eisiau adeiladu gyrfa wrth ennill profiad ymarferol. Mae rheoli risg yn cyffwrdd â phob maes o fewn TrC, a dw i’n mwynhau deall sut mae gwahanol rannau o’r busnes yn cysylltu â’i gilydd.”
Yn gyflym iawn, darganfu’r ddau brentis fod eu hyder wedi tyfu. I Finley, daeth trobwynt pan wnaeth gyflwyniad am y tro cyntaf.
“Dydw i erioed wedi bod yn dda am siarad â grwpiau o bobl, fyddwn i ddim wedi gallu dychmygu, ymhen ychydig fisoedd, y byddwn i’n cyflwyno araith i 50 o bobl!”
I Keiran, y trobwynt oedd gallu camu i mewn a threfnu gweithdy a fynychwyd gan gydweithwyr o bob cwr o'r sefydliad: “Erbyn y diwedd, cefais adborth gwych… Sylweddolais ‘Iawn, nid dysgu yn unig dw i'n ei wneud mwyach, dw i'n cyfrannu’.”
Wrth iddyn nhw symud i rolau parhaol, ehangodd eu cyfrifoldebau. Mae Finley bellach yn cefnogi ffrydiau gwaith mawr, gan egluro, “Eu harweiniad nhw a wnaeth fy ngosod yn y sefyllfa dw i ynddi nawr, yn cadeirio ac yn arwain cyfarfodydd, yn arwain ffrydiau gwaith ynglŷn â meddwl am y dyfodol ac yn cydlynu rhaglenni fel rhaglen Rheilffordd200 TrC.”
Mae rôl Keiran hefyd wedi esblygu’n sylweddol: “Dw i bellach yn rheoli risgiau’n weithredol, yn cyfrannu at drafodaethau busnes ehangach ac yn helpu i lunio sut rydym yn gwella ein prosesau.”
Mae'r ddau yn rhoi clod i'w timau am y gefnogaeth a gawsant. Dywedodd Finley, “Roedd fy rheolwr yn anhygoel, croesawodd fy nhîm ehangach fi â breichiau agored.” Ychwanegodd Keiran, “Ni allwn i fod wedi gofyn am arweinydd gwell ar gyfer fy natblygiad. Roedd cydweithwyr bob amser yn rhoi o'u hamser i ateb cwestiynau.”
Mae eu cyngor i brentisiaid y dyfodol yn syml. Mae Finley yn annog pobl i ddangos angerdd: “Mae TrC yn chwilio am rywun brwdfrydig, sy’n barod am her.”
Mae Keiran yn tynnu sylw at bwysigrwydd uchelgais: “Gwnewch hi’n glir eich bod chi eisiau tyfu gyda’r sefydliad. Mae timau’n sylwi ar frwdfrydedd a chwilfrydedd.”
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r ddau yn gyffrous am yr hyn sydd nesaf. Dywed Finley, “Dw i'n gwybod ble dw i am fod ymhen 5 mlynedd… Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i'r cyfeiriad cywir.”
Mae Keiran yn ychwanegu, “Mae TrC yn esblygu’n gyson. Mae gwybod fy mod i wedi dechrau fel prentis ac fy mod i’n gallu tyfu i rolau mwy fyth wir yn fy nghymell i.”
Mae eu teithiau’n dangos sut y gall prentisiaethau TrC agor drysau, meithrin hyder a chreu gyrfaoedd ystyrlon a sut y gall y gefnogaeth gywir helpu pobl i dyfu ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddychmygon nhw’n wreiddiol.
Dysgwch ragor am y rolau sydd ar gael a gwnewch gais nawr: https://jobs.tfw.wales/jobs/apprenticeships