Skip to main content

Spend a car-free day in the Conwy Valley with fflecsi

03 Medi 2026

Mae Dyffryn Conwy yn lle gwych i'w archwilio heb gar. O bentref swynol Llanrwst i'r llwybrau cerdded yng Nghoedwig Gwydir, gadewch y car gartref a mwynhewch ddiwrnod allan gyda fflecsi. 

Mae ein gwasanaeth fflecsi Dyffryn Conwy yn gweithredu rhwng 06:30 – 19:00, gan roi digon o amser i chi fwynhau diwrnod allan.

Taith gerdded foreol yng Nghoedwig Gwydir

Mae llwybrau cerdded golygfaol Coedwig Gwydir yn ffordd wych o ddechrau eich diwrnod. Llwybr poblogaidd yw Llwybr Glan Afon Llugwy, sy'n cymryd rhwng 1-1.5 awr. Ar hyd y llwybr hwn gallwch fwynhau golygfeydd tawel o'r afon, coed ffynidwydd Douglas trawiadol a Phont hanesyddol y Mwynwyr.

Ymwelwch â Zip World Betws-y-coed

I'r anturiaethwyr yn eich plith, mae ymweliad i Zip World Betws-y-coed yn hanfodol. Wedi'i leoli yng nghoetir Gogledd Cymru, mae Zip World yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau gwahanol i bobl o bob oed. Rhowch gynnig ar y trên alpaidd hiraf yn y DU, mwynhewch olygfeydd godidog Dyffryn Conwy ar y siglen Skyride a neidiwch ar hyd y Rhwydi Coed.

Zip World-2

Te prynhawn yn Tu Hwnt I’r Bont

Ddim awydd antur anferth yn Zip World? Rhowch gynnig ar brynhawn hamddenol yn Tu Hwnt i’r Bont.

Wedi’i adeiladu yn 1480, mae Tu Hwnt i’r Bont yn llawn treftadaeth Gymreig gyfoethog. Ymwelwch â'r ystafell de hynod, cerddwch ar hyd yr afon a rhowch gynnig ar rai o'u prydau traddodiadol. Mae Bara brith, rarebit Cymreig a'u te mawr Cymreig enwog i gyd ar gael.

llanrwst-north-wales-4

Archwiliwch y siopau annibynnol yn Llanrwst

Mae stryd fawr Llanrwst yn llawn siopau annibynnol i bori drwyddynt. Darganfyddwch gaws, siytni a gwin lleol yn Blas ar Fwyd a chasglwch gofrodd i'ch cartref yn Lle Nila, sy'n llawn anrhegion wedi'u gwneud â llaw. Sbwyliwch eich hun gyda brechdan a danteithion o HAND neu ewch i gael coffi o Café Contessa.

Gellir plethu gwasanaethau fflecsi i mewn i'ch diwrnod allan heb gar. P'un a oes angen i chi gael eich gollwng yn Zip World neu eich casglu ar ôl eich taith gerdded foreol yng Nghoedwig Gwydir, cynlluniwch eich diwrnod allan gyda fflecsi.

Dysgwch ragor am wasanaeth fflecsi Dyffryn Conwy ac archebwch eich taith drwy: https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/dyffryn-conwy