Skip to main content

Three ways to spend the day with fflecsi Llŷn Peninsula

12 Mai 2026

Dyddiadau i’ch dyddiadur - bydd fflecsi Pen Llŷn ar waith eto ddydd Sadwrn 23 Mai - dydd Sul 6 Medi.

Yn gweithredu o fewn un o rannau harddaf Llwybr Arfordir Cymru, mae'r gwasanaeth hwn yn berffaith ar gyfer teithio o amgylch gogledd-orllewin Cymru. Gwerthfawrogwch olygfeydd gwledig, mwynhewch arfordiroedd sy’n ymestyn am filltiroedd, neidiwch o draeth i draeth a bwytwch ar hyd yr arfordir. Mae fflecsi hefyd yn gweithredu fel cysylltiad trafnidiaeth gwych ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac yn cysylltu â Llinell y Cambrian ym Mhwllheli.

Ydych chi'n pendroni dros sut allwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth fflecsi Pen Llŷn yn ystod yr haf? Dyma dair ffordd i dreulio'r diwrnod yn y rhan brydferth hon o Gymru.

1. Cynlluniwch ddiwrnod ar y traeth

Paciwch eich eli haul, sbectol haul a thywel am ddiwrnod ar un o amrywiol draethau Pen Llŷn.

Mae Traeth Llanbedrog yn ddewis poblogaidd, lle byddwch chi'n dod o hyd i gytiau traeth lliwgar, tywod euraidd a mynediad hawdd at lwybrau arfordirol. Mae gan y traeth gaffi hefyd, sy'n berffaith os ydych am fwynhau hufen iâ gyda golygfeydd o’r môr sydd heb eu hail.

Mae Traeth Porthor yn llecyn prydferth arall, yn enwog am ei dywod gwichlyd sy’n ‘canu’. Gan gynnig dyfroedd glas clir ac arfordir garw, mae'r traeth hwn yn berffaith ar gyfer corff-fyrddio. Os byddai'n well gennych chi ddiwrnod hamddenol, dewch â llyfr da, ymlaciwch ar y tywod ac ewch i fwynhau diod a thamaid i’w fwyta yn y caffi ar y traeth.

2. Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn hanfodol os ydych chi yn yr ardal, wrth gynnig digonedd o lwybrau golygfaol. Am daith gerdded fyrrach, beth am roi cynnig ar fynd am dro o Nefyn i Borthdinllaen?

Ychydig o dan 3 milltir i ffwrdd, gallwch edmygu golygfeydd arfordirol a gweld morloi cyn i chi gyrraedd hen bentref pysgota Porthdinllaen. Unwaith i chi gyrraedd Porthdinllaen, crwydrwch o gwmpas y pentref pysgota a bwciwch wasanaeth fflecsi i'ch casglu pan fyddwch chi'n barod i ddychwelyd.

3. Dewch o hyd i’r sîn fwyd leol

Mwynhewch brofiad bwyta arfordirol ar ei orau yn Abersoch, un o'r ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu gan ein gwasanaeth fflecsi Pen Llŷn.

Yn gartref i dafarndai, bwytai a chaffis di-ri, Abersoch yw'r pentref delfrydol i bob un sy'n dwlu ar fwyd. Am fwyd cain, ewch i The Potted Lobster, a enwyd yn Fwyty Bwyd Môr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2026.

Yn ogystal â bwyd môr lleol, fe welwch chi amrywiaeth o fwydydd yn Abersoch. O flasau Mecsicanaidd ym mwyty Mañana i flasau o Wlad Thai ym mwyty Deli Thai, mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt.

Mae cynllunio eich taith o amgylch Pen Llŷn gyda fflecsi yn ddigon hawdd. Am ragor o wybodaeth am fflecsi Pen Llŷn a phrisiau tocynnau, cliciwch yma.

Llwytho i Lawr