20 Meh 2025
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella eich taith, gwella diogelwch, a gwneud ein gwasanaethau'r gorau y gallant fod.
Dyna pam - yn ein labordy arloesi ein hunain – rhoddi geni i syniadau arloesol rhagorol. Pleser o'r mwyaf yw gallu rhannu gyda chi rhai o'r syniadau cŵl rydym wedi'u rhoi ar waith.
Ond cyn ein bod yn dechrau trafod y datblygiadau arloesol diweddaraf, hoffem dynnu eich sylw at y ffaith ein bod wedi llwyddo i feithrin pum carfan drwy ein rhaglen gyflymu ddwys 10 wythnos. Yn sgil hyn, gwnaethom lwyddo i ddenu dros 300 o fusnesau newydd uchelgeisiol sy'n awyddus i gael effaith wirioneddol.
Rydym yn hynod falch ein bod eisoes wedi cyflymu 18 o fusnesau newydd i'r diwydiant rheilffyrdd, gan eu grymuso i roi eu datrysiadau a'u syniadau creadigol ar waith i wella profiad cwsmeriaid ac effeithlonrwydd busnes.
Nawr, dyma rannu gyda chi hanes rhai o’r syniadau arloesol a chŵl:
Wordnerds
Ydych chi'n cofio'r troeon hynny pan wnaethoch chi rannu adborth gyda ni, gofyn cwestiynau, neu hyd yn oed gwyno am rywbeth? Dychmygwch gael system eithriadol o glyfar a all ddeall hanfod eich neges ar unwaith, ni waeth sut caiff ei eirio. Dyma beth yw grym Wordnerds - datrysiad dadansoddeg testun dyfeisgar sydd wedi'i bweru gan AI!
Daethom ar draws Wordnerds gyntaf yn ein hail garfan, a chawsom ein synnu gan ei allu i ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy o nifer o sianeli cyfathrebu cwsmeriaid.
Ar y dechrau, dadansoddi cyfryngau cymdeithasol yr oedd Wordnerds yn canolbwyntio arno. Bellach, mae ein partneriaeth pedair blynedd gyda Wordnerds wedi ehangu i gwmpasu ymchwil cwsmeriaid, gan ddarparu mewnwelediadau ansoddol dyfnach, a hyd yn oed symleiddio ein proses o ymdrin â chwynion trwy nodi themâu allweddol yn awtomatig.
Mae'r amser mae’n ei arbed o ran ysgrifennu adroddiadau dadansoddi o fudd mawr i'n tîm mewnwelediadau. https://www.wordnerds.ai/
Spatial Cortex Technology
Mae anafiadau wrth godi a chario yn bryder mawr i lawer o ddiwydiannau, a dyw’r diwydiant rheilffyrdd ddim yn eithriad. Dyna pam y gwnaeth Spatial Cortex Technology
greu cryn argraff arnom gyda MOVA - technoleg arloesol y gellir ei gwisgo. MOVA oedd enillydd ein hail garfan.
Mae MOVA Spatial Cortex Technology yn dechnoleg arloesol y gellir ei gwisgo a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer staff rheilffyrdd. Ei nod yw lleihau'r risg o anafiadau codi a chario â llaw wrth wneud tasgau amrywiol, gan gynnwys gweithio wrth ymyl y trac, gwaith yn y depo, a gwaith cynnal a chadw.
Yr hyn sy'n gwneud MOVA yn unigryw yw ei allu i ddarparu asesiadau meintiol a mewnwelediadau dwys, gan ragori ar gyfyngiadau arferion asesu risg traddodiadol.
Arweiniodd llwyddiant ac addewid MOVA at bartneriaeth strategol gydag Amey – sy'n dyst i gydnabyddiaeth y diwydiant o effaith bosibl y dechnoleg ar wella diogelwch staff.
Yn dilyn llwyddiant profi MOVA gyda gweithwyr fflyd a thrac, rydym bellach yn treialu MOVA gyda'n staff rheng flaen. https://www.spatialcortex.co.uk/
RoboK
Mae enillwyr Carfan 3, RoboK ar dân i wneud ein rheilffyrdd yn fwy diogel gyda'u datrysiadau gweledigaeth gyfrifiadurol arloesol sy'n seiliedig ar AI.
Ar ddechrau eu taith gyda ni, roedd ganddyn nhw nod clir: mynd i'r afael â'r her o ddiogelwch ger croesfannau rheilffordd. Roedd y Prawf o Gysyniad (POC) dechreuol yn llwyddiant ysgubol:
· Cam 1: Croesfan reilffordd Tŷ Glas: Gosododd RoboK gamera oedd yn cael ei bweru gan yr haul a chasglu data yn ddiwyd am 31 diwrnod. Roedd y dechnoleg yn esblygu ac yn darparu mewnwelediadau amhrisiadwy i beryglon posibl.
· Cam 2: Trwy gydol y POC, roedd AI RoboK yn mireinio ei ddealltwriaeth o'n heriau rhwydwaith unigryw yn barhaus. Arweiniodd y broses ddysgu ailadroddol hon at ddata hynod o fewnweledol, gan nodi risgiau diogelwch a siapio datblygiad parhaus yr ateb.
Cystal oedd y canlyniadau, mae RoboK bellach yn cael ei ddefnyddio ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae hyn yn golygu mesurau diogelwch gwell, canfod risgiau yn gynharach, a gostyngiad sylweddol yn y tebygolrwydd o ddamweiniau ar groesfannau rheilffordd ar draws rhan hanfodol o'r rhwydwaith rheilffyrdd.
Does dim diwedd ar yr effaith y mae Roboke yn ei chael. Gyda'u harbenigedd, maent hefyd wedi llwyddo i greu partneriaeth wirioneddol gyda'r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang, cydweithrediad sy'n addo mireinio a gwella eu datrysiad gweledigaeth gyfrifiadurol ymhellach ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd ehangach. Ac fel
pe na bai hynny'n ddigon, maen nhw hefyd wedi llwyddo i gael grant gan Gronfa Arloesi Perfformiad Network Rail! https://robok.ai/home
JurnyOn
Mae JurnyOn yn gyn-fyfyriwr gwych arall ar ein rhaglen. Mae wir wedi trawsnewid profiadau teithio a thocynnau trên. Maent wedi bod yn gwneud cynnydd aruthrol, yn enwedig i ddatblygu platfform tocynnau tanysgrifio sgyrsiol AI cyntaf erioed y DU.
Dychmygwch fyd lle mae twyll tocynnau, sydd ar hyn o bryd yn costio £240 miliwn - swm anhygoel - i ddiwydiant rheilffyrdd y DU bob blwyddyn, yn rhywbeth o'r gorffennol pell. Mae cydweithrediad JurnyOn â TrC yn arddangos sut y gall blockchain ac AI fod yn gynghreiriaid pwerus wrth fynd i'r afael â'r her unigryw hon.
Ond nid yw'n ymwneud ag atal twyll yn unig. Mae JurnyOn yn ymwneud â gwella profiad y teithiwr.
Lansiwyd JurnyOn i'r cyhoedd ym mis Ebrill ac fe gafodd dderbyniad anhygoel! Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol enfawr: mae'n un peth i fod y cwmni tocynnau trenau cyntaf i weithredu system ddisgownt sy'n seiliedig ar danysgrifiad, ond dyma'r tro cyntaf yn y byd i blockchain ac NFT gael ei ddefnyddio i wneud hynny. https://www.jurnyon.com/
Nid rhedeg trenau yn unig ydym ni yn TrC; rydyn ni'n llunio dyfodol teithio.
Rydym wedi ymrwymo i archwilio technolegau newydd yn barhaus i wneud eich taith yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy pleserus.
Cadwch lygad allan am ddiweddariadau mwy cyffrous gan ein Labordy Arloesi - https://trc.cymru/lab