03 Gor 2025
Mae cyngerdd aduniad Oasis cyntaf y DU yma a gallwch deimlo'r cyffro'n cynyddu gyda ‘Wonderwall’ yn adleisio trwy strydoedd Caerdydd. Wrth i'r hetiau bwced a'r parka weld golau dydd, mae ein Tîm Digwyddiadau wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid allweddol y tu ôl i'r llenni, yn cynllunio pob manylyn i sicrhau bod eich taith mor berffaith ag un o ganeuon Noel Gallagher.
O fesurau diogelwch i systemau ciwio, a threnau hwyr y nos i gymorth gyda hygyrchedd, rydym yn sicrhau nad roc a rôl yn unig yw eich profiad, ond hefyd diogelwch heb unrhyw straen. Felly, os ydych chi'n barod i fynd amdani, dyma docyn cefn llwyfan i bopeth rydyn ni'n ei wneud i'ch cefnogi chi i gyrraedd Stadiwm y Principality ac i'w gadael, heb unrhyw drafferth.
Yr Uwchgynllun – Mwy na dim ond Rhestr o gyfarwyddiadau
Nid yw trefnu trafnidiaeth ar gyfer digwyddiad o'r raddfa hon yn hawdd. Mae'n gynllun meistr go iawn sy'n golygu misoedd o waith rhagblaen!
Mae cynllunio digwyddiadau yn dechrau fisoedd ymlaen llaw ac yn cynnwys rhwydwaith o bartneriaid diwydiant, gan gynnwys Great Western Railway (GWR), CrossCountry (XC), Network Rail (NR), Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), Heddlu De Cymru (SWP), Cyngor Caerdydd ac wrth gwrs, Stadiwm y Principality.
Cyn gynted ag y cadarnheir dyddiad digwyddiad, boed yn gyngerdd neu'n gêm chwaraeon, mae ein tîm yn dechrau ar y gwaith trefnu ar unwaith, gan nodi unrhyw risgiau fel gwaith peirianneg sydd ar ddod a digwyddiadau eraill sy'n gwrthdaro a fyddai'n effeithio ar ein gallu i ddarparu profiad esmwyth i'n cwsmeriaid.
Mewn achosion lle nad oes modd gwneud newidiadau, rydym yn gweithio'n galed i ddarparu opsiynau trafnidiaeth amgen gan gyfathrebu mewn digon o bryd ac mewn dull tryloyw i'ch galluogi i gynllunio ymlaen llaw yn hyderus.
Rydym hyd yn oed yn ymestyn oriau agor blwch signalau ac yn gwella goleuadau gorsaf ar nosweithiau digwyddiadau - oll yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau eich bod yn ddiogel, yn weladwy ac yn symud.
Nid yw'n gamp hawdd ac ar gyfer y digwyddiadau hyn yn unig, rydym wedi cynnal 44 o gyfarfodydd cynllunio, briffiau cyn digwyddiad a chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Felly heb os 'Don't Look Back in Anger' yw hi — Rydych chi mewn dwylo diogel
Nid ar chwarae bach y gallwn ni drefnu bod degau o filoedd o gefnogwyr yn gallu teithio i'r ddinas, yn enwedig pan fo nifer o ddigwyddiadau mawr yn digwydd ar yr un pryd ar draws y rhwydwaith ehangach. O deithwyr dydd yn mwynhau'r awyrgylch i gefnogwyr brwd gyda thocynnau, rheoli capasiti yw un o'n heriau mwyaf.
Felly, sut ydyn ni'n paratoi? Diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ar draws y rhwydwaith, mae partneriaethau agos a ffyrdd o weithio gyda GWR, NR & XC yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i greu lle.
Gan ddefnyddio data cod post a thueddiadau digwyddiadau hanesyddol, rydym yn nodi o ble y daw'r torfeydd mwyaf. Mae hyn yn ein helpu i gynnig gwasanaethau ychwanegol yn hyderus a chryfhau'r rhai presennol lle mae eu hangen fwyaf.
Dengys y mewnwelediadau i gyngherddau OASIS ar hyn o bryd bod y tocynnau sydd wedi'u gwerthu wedi'u dosbarthu'n dda, gyda'r niferoedd uchaf yn tarddu o Dde Cymru a'r De Ddwyrain.
Ond nid yw ein cynllun yn bendant; byddwn yn monitro data amser real yn barhaus. Mae hyn yn ein galluogi i addasu'n gyflym ac yn effeithiol! Ein nod yw cael pawb adref yn ddiogel o fewn ffenestr deithio fer ar ôl i'r gyngerdd ddod i ben tua 10:30 pm. Golyga hyn:
- Trenau ychwanegol yn hwyr yn y nos ar bob lein
- Bysiau wrth gefn ar y safle i gefnogi gyda chapasiti ychwanegol os bydd angen
- Cydlynu agos â darparwyr trafnidiaeth lleol
Stand By Me – Bod yn Saff a Diogelwch sydd Gyntaf pob tro
Er ein bod am i chi gael noson fythgofiadwy, eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth. Dyna pam rydym yn gweithio law yn llaw â Chyngor Caerdydd, BTP, SWP a'n timau cadw'n saff a diogelwch i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
Fe welwch batrolau gwelededd uchel, monitro teledu cylch cyfyng a staff sydd wedi'u hyfforddi ar hyd y lle, oll yn gweithio'n galed i'ch helpu i fwynhau eich profiad yn y gyngerdd.
Y tu mewn i orsafoedd ac o amgylch Caerdydd Canolog, rydym wedi cynllunio ardaloedd rheoli torfeydd yn ofalus. Nid mater o giwio yn unig yw'r rhain, maent yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel, atal tagfeydd a sicrhau bod mynediad brys yn parhau i fod yn glir.
Ciwiwch (Ond Pwyllwch)
Ie, bydd ciwiau — ac ydyn, maen nhw'n rhan hanfodol o'r cynllun. Ar ôl y gig, byddwn yn cyflwyno system giwio wedi'i rhannu'n barthau ar draws Gorsaf Caerdydd Canolog. Mae'r rhain yn ein helpu i symud grwpiau mawr yn ddiogel ac atal gorlenwi y tu mewn i'r orsaf. Dyma'r parthau;
- Gwasanaethau prif lein yn ciwio yn Sgwâr Canolog Caerdydd
- Gwasanaethau Lein y Cymoedd yn ciwio yng nghefn yr orsaf
- Gwasanaethau i Sba Cheltenham a Glynebwy yn ciwio ym maes parcio gorsaf drenau Fish Jetty
Mae'r dorf yn enfawr, felly cofiwch, pwyllwch a byddwch yn amyneddgar. Bydd ein cydweithwyr rheng flaen wrth law cyn ac ar ôl digwyddiad i helpu teithwyr wrth iddynt gyrraedd Caerdydd. Byddant yn ateb cwestiynau, yn rheoli ciwiau ac yn eich helpu i gyrraedd y platfform lle byddwch chi'n dal eich trên adref. Dangoswch barch iddyn nhw wrth iddyn nhw weithio'n galed i gael pawb adref yn ddiogel ac yn effeithlon.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu teithio'n gyfforddus. Dyna pam mae gennym lwybrau Hygyrchedd pwrpasol ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth ychwanegol.
Ar ddiwrnodau digwyddiadau, gofynnwn yn garedig i deithwyr sydd angen y cymorth hwn i wneud eu hunain yn hysbys i'n stiwardiaid. Yna byddant yn eich cyfeirio at y llwybrau mynediad pwrpasol. Gall teithwyr sy'n defnyddio'r llwybr hwn hefyd fod yng nghwmni hyd at dri gofalwr neu aelod o'r teulu.
Talk Tonight (and All Day Too) – Eich cadw chi yn y pictiwr
Rydym yn deall y gall ymgyfarwyddo a gorsaf brysur yn ystod digwyddiad mawr eich llethu, a dyna pam rydyn ni yn cyfathrebu ar y lefel uchaf fel eich bod yn gwybod beth sy'n digwydd drwy'r amser.
Cyn i chi hyd yn oed adael gartref, byddwn yn anfon rhybuddion gwasanaeth National Rail Enquiries a rhybuddion gorsafoedd. Modd o'ch hysbysu’n gynnar yw'r rhain y bydd gwasanaethau i/o Caerdydd Canolog yn brysur.
Ar ôl i chi gyrraedd, bydd ein Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid yn cael eu diweddaru'n gyson. Byddant yn dweud wrthych am unrhyw ardal o'r orsaf sydd ar gael ac yn rhannu negeseuon pwysig i'ch helpu i symud o gwmpas. Hefyd, fe welwch arwyddion clir ym mhobman, gan eich cyfeirio at ble yn union y mae angen i chi fynd.
Ac ar gyfer y rhai sy'n dal bws, mae gennym gyfarwyddiadau i chithau hefyd. Ers agor Cyfnewidfa Fysiau newydd Caerdydd, rydym wedi darparu gohebiaeth ynghylch ei chau yn ystod digwyddiadau. Rydym hyd yn oed wedi creu map arbennig yn dangos pob safle bws lloeren. Mae hyn yn golygu, os yw'r gyfnewidfa ar gau, gallwch ddod o hyd i'r lle cywir i ddal eich bws yn hawdd.
Let There Be (Safe) Love – Pwyso a Mesur
Rydym yn barod. Mae ein partneriaid yn barod. Mae'r ddinas yn barod. Y cyfan sydd ar ôl yw i chi fwynhau'r hyn sy'n addo i fod yn noson i'w chofio.
Am y newyddion diweddaraf, cofiwch:
✅ GWirio ap a gwefan TrC
✅ Dilynwch ni ar X a WhatsApp
✅ Gwrando ar gyhoeddiadau gorsafoedd
✅ Byddwch yn garedig wrth staff a chyd-gefnogwyr
✅ Ac yn bwysicaf oll... peidiwch ag edrych yn ôl mewn dicter os oes oedi — rydyn ni'n gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni i'ch cael gartref yn ddiogel!
Gadewch i ni wneud i Oasis serennu hyd yn oed mwy nag erioed - pwyllo, gofal a chysylltiad. Gobeithio y bydd eich profiad yn y gyngerdd yng Nghaerdydd yn un wirioneddol 'Supersonic'!