21 Medi 2023
Mae gwaith peirianneg y penwythnos hwn felly mae eich trên gael ei ddisodli gan fws - y peth olaf rydych chi eisiau ei glywed pan fyddwch chi’n teithio.
Ond pam bod y pethau hynny bob amser yn digwydd ar yr adeg fwyaf anghyfleus, a beth yn union yw’r gwaith cynllunio ar ei gyfer?
Gall gwaith peirianyddol barhau rhwng ychydig oriau a nifer fawr o wythnosau.
Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, mae rhan fawr o reilffordd arfordir y Cambrian ar gau wrth i Network Rail wneud gwaith hanfodol ar draphont 154 oed y Bermo.
Maent hefyd yn adnewyddu traciau hanfodol yn ’Nhwnelau Dinmor, syn 170 oed, ar yr un pryd, sy’n golygu gwasanaeth bws yn lle trên rhwng Amwythig a Henffordd.
Mae’n rhaid i’r gwaith hwn ddigwydd – i sicrhau bod trenau’n gallu rhedeg yn ddiogel ac i arbed gwaith atgyweirio mwy difrifol yn y dyfodol.
Ond all y gwaith ddim aros wythnos neu ddwy?
“Byddwn bob amser yn gweithio gyda Network Rail i ddod o hyd i’r adegau pan fydd gwaith yn cael yr effaith leiaf,” meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Perfformiad a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru.
“Er enghraifft, mae arfordir y Cambrian yn ffynnu ar dwristiaeth ac mae’n hanfodol i’r economi leol, felly fe wnaethom lunio cynllun ar gyfer adnewyddu’r draphont a fydd yn dechrau ar ôl gwyliau’r haf. Rydyn ni’n chwilio’n gyson am yr adegau pan fydd y gwaith yn cael yr effaith leiaf ar gwsmeriaid ac yn gweithio gyda Network Rail i ddod o hyd i ddewisiadau eraill addas. Nid yw bob amser yn bosibl, yn enwedig os yw’n waith atgyweirio brys ar ôl difrod storm, er enghraifft, ond fel arfer mae’n bosib gwneud rhywbeth i liniaru'r effaith.”
Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys cyngerdd Taylor Swift fis Mehefin nesaf lle cafodd gwaith peirianyddol ei gynllunio’n wreiddiol ar reilffordd Glynebwy, ond mae wedi cael ei symud i fis Mai yn lle hynny. Ar adeg gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad nesaf yn 2024, roedd gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer lein Abertawe i Ben-y-bont ar Ogwr. Mae hwn wedi cael ei symud wythnos yn ôl erbyn hyn.
Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd bron yn 200 oed. Gyda seilwaith sy’n heneiddio, mae’n bwysig bod gwaith cynnal a chadw parhaus ac uwchraddio hanfodol yn cael eu cwblhau i sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel ac er mwyn gwella dibynadwyedd. Gyda dros 10,000 milltir o drac i ofalu amdano ar draws y Deyrnas Unedig (a bron i 3,000 o filltiroedd yng Nghymru yn unig), mae gwaith pwysig i’w wneud bob amser.
Pan fydd gwaith ar y cledrau yn effeithio ar ein gwasanaethau, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Network Rail i helpu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl lle bynnag y bo modd gan wneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n aml, er mwyn cael y wybodaeth fwyaf cywir a chyfredol.
Mae Gweithredwyr Trenau fel arfer yn cael y “Cynllun Meddiant Cyfnod wedi’i Gadarnhau” 26 wythnos cyn i’r lein gau neu gael ei “meddiannu”. Dylai hyn gynnwys yr holl waith peirianyddol sy’n cael ei wneud yn ystod yr wythnos hon. Yna, bydd y tîm Cynllunio Trenau yn ysgrifennu eu cynllun trenau diwygiedig ac yn cytuno ar hyn gyda Network Rail 12 wythnos cyn i’r gwaith gael ei wneud.
Yn dibynnu ar natur unrhyw waith, mae Network Rail hefyd yn rhoi gwybod i gymdogion sy’n byw wrth ymyl y cledrau drwy anfon llythyrau atynt, yn enwedig pan nad oes modd osgoi sŵn neu darfu ar draffig ar y ffyrdd.
Ar ôl hynny, mae’r cynllun bws yn cael ei anfon at y Tîm Trafnidiaeth Ffordd i recriwtio’r bysiau ac mae’r wybodaeth yn dechrau ymddangos mewn systemau cynllunio teithiau, ar wefannau ac mewn posteri yn y gorsafoedd yr effeithir arnynt. Wrth i’r dyddiadau nesáu, bydd ein tîm cyfryngau cymdeithasol hefyd yn anfon negeseuon atgoffa at gwsmeriaid i’w gwirio cyn teithio. Rydyn ni’n rhannu’r cynlluniau hyn â Network Rail sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chyfathrebu’n barhaus â chymdogion sy’n byw wrth ymyl y cledrau, i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir.
Yn ogystal â darparu ein bysiau ein hunain yn lle trenau, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda gweithredwyr eraill lle gallwn ni, er mwyn sicrhau bod tocynnau’n cael eu derbyn fel bod cwsmeriaid yn gallu defnyddio llwybrau eraill.
Efallai y bydd angen datganiad i’r wasg i roi gwybod i gynifer o bobl â phosibl am gau rheilffyrdd mwy sylweddol.
Esboniodd Susan Olohan, Rheolwr Mynediad a Chontractau TrC, y byddai gwaith peirianneg hefyd yn cael ei grwpio gyda’i gilydd lle bo hynny’n bosibl er mwyn lleihau’r tarfu yn gyffredinol.
Dywedodd: “Does ‘na byth ‘amser da’ i wneud gwaith peirianneg a does neb yn gwerthfawrogi bod eu trên yn cael ei ganslo, ei ddargyfeirio na’i ddisodli gan fws, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i osgoi digwyddiadau mawr, cyfnodau prysur tymhorol a gwaith peirianyddol arall sy’n gwrthdaro.”