14 Tach 2022
Mae ein penderfyniadau am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn pennu llawer mwy nag ymhle y caiff rheilffyrdd, llwybrau beicio a lonydd bysiau eu hadeiladu. Nhw sy’n pennu sut mae pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn ffynnu yn eu cymunedau. Mae diffyg trafnidiaeth gynaliadwy yn cyfyngu ar bosibiliadau ac yn rhoi ein planed mewn perygl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ffordd newydd o feddwl ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae Llwybr Newydd (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru) yn rhoi lleoedd, pobl a newid hinsawdd ar flaen a chanol ein system drafnidiaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid inni ei wneud. Yr argyfwng hinsawdd yw un o faterion diffiniol mwyaf ein hoes. Os ydym am ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni gyflawni Net Zero erbyn 2050.
I wneud hynny, mae angen inni newid y ffordd yr ydym yn teithio. Mae arnom angen system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas ar gyfer y dyfodol gyda mwy o bobl yn cerdded, beicio ac yn gyrru ar olwynion ledled Cymru. Rydym yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r lefel honno o newid nid yn unig drwy adeiladu seilwaith a gwella gwasanaethau ond hefyd drwy ddod â phobl Cymru gyda ni. Rydym yn dylunio system drafnidiaeth integredig sy’n gweithio i bawb.
Rydym yn fwy na gweithredwr trenau. Rydyn ni’n sefydliad amlfodd sy’n canolbwyntio’n gadarn ar y dyfodol, rydyn ni yma i gael effaith fawr drwy weithio’n agos gyda phartneriaid i gyflawni’r weledigaeth a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Rôl y tîm Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth yw sicrhau bod trosolwg strategol o’r rhwydweithiau trafnidiaeth sy’n datblygu yng Nghymru. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill, rydym yn gyfrifol am ddatblygu achosion ar gyfer buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth fel ein bod yn gallu sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru.
Mae ein tîm yn creu ac yn archwilio cynigion credadwy ar gyfer datblygiadau trafnidiaeth newydd ledled Cymru. Maent yn seiliedig ar ddata a mewnwelediad a byddant yn darparu profiad integredig gwych i’n cwsmeriaid ac yn galluogi pobl i deithio’n fwy cynaliadwy.
Gwnawn hyn drwy gynnal astudiaethau cadarn o amgylch y rhwystrau presennol i drafnidiaeth y mae pobl yn eu hwynebu. Rydym yn chwilio am yr atebion gorau sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, hamdden, busnes a chyfleoedd eraill, gan drawsnewid rhagolygon economaidd Cymru yn y dyfodol. Rydym yn dibynnu ar awdurdodau lleol, gweithredwyr, partneriaid trydydd sector a rhanddeiliaid eraill i rannu arbenigedd a mewnwelediadau. Rydym hefyd yn croesawu heriau ynghylch y cynigion i sicrhau bod y cynlluniau gorau posibl yn cael eu cyflwyno ar gyfer dilyniant.
Gofynnwn i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu beth yw eu barn am ein gwaith arfaethedig. Rydyn ni'n rhoi'r cyfle iddyn nhw drwy ymgynghoriadau ffurfiol, grwpiau rhanddeiliaid a phaneli i helpu i lunio'r cynigion hyn.
Rydym yn hyrwyddo arloesedd gan ddefnyddio arfer gorau o bob rhan o'r diwydiant ynghyd â thechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Rydym yn cynllunio dyfodol lle mai teithio cynaliadwy yw’r dewis cyntaf i bobl Cymru.
Mae ein system drafnidiaeth yn cysylltu pobl â’i gilydd, yn clymu cymunedau ynghyd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae’n un o’r arfau mwyaf pwerus a deinamig sydd gennym ar gyfer cydlyniant cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol. Er mwyn gweld y gwaith hwn yn parhau, gwyddom fod yn rhaid inni i gyd weithio gyda’n gilydd a sicrhau buddsoddiad ledled Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth wirioneddol integredig y gall Cymru fod yn falch ohono.
Fel y dywedodd Anthony Foxx (Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr Unol Daleithiau rhwng 2013 a 2017) ‘Y realiti am drafnidiaeth yw ei fod yn canolbwyntio ar y dyfodol. Os ydym yn cynllunio ar gyfer yr hyn sydd gennym, rydym y tu ôl i’r gromlin.’