09 Chw 2023
Rydyn ni’n falch o gymryd rhan yn Wythnos Cydraddoldeb Hiliol. Dyma ddigwyddiad cenedlaethol blynyddol sy’n dod â miloedd o unigolion a busnesau at ei gilydd i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol yn y gweithle.
Y thema eleni yw #BusnesPawb (#ItsEveryonesBusiness) oherwydd mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn fusnes i bawb.
Mae Sue Bennett, Rheolwr Contractau Trafnidiaeth, yn rhannu ei hanes o weithio yn y diwydiant trafnidiaeth a’r cyfleoedd i symud ymlaen.
Amdanaf i
Doedd gweithio yn y sector trafnidiaeth erioed wedi bod yn uchelgais i mi, a phan oeddwn i’n 21 oed, roeddwn i’n gweld y sector fel diwydiant hierarchaidd, dan ddylanwad dynion, heb fodelau rôl roeddwn i’n gallu uniaethu â nhw. Rhoddais flwyddyn i mi fy hun i arbed arian, cael rhywfaint o brofiad a symud ymlaen. Un ar ddeg mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i fod yma ac yn ffynnu.
Rwyf wedi dysgu anelu’n uchel a chyflawni. Meddyg oedd fy nhad. Yn anffodus, bu farw mewn damwain car pan oeddwn yn blentyn. Mae fy mam yn rhedeg ei busnes ei hun, felly rwyf wastad wedi cael fy ngwthio i gyflawni. Dysgodd cymdeithas fi’n gynnar y byddai’n rhaid i mi bob amser wneud yn well ac anelu’n uwch er mwyn llwyddo. Roedd gwylio fy mam yn magu pedwar o blant ar ei phen ei hun yn ysbrydoliaeth, ac roedd hi’n sicr wedi gofalu fy mod i bob amser yn gweithio i wella fy hun.
Blynyddoedd Cynnar fy Ngyrfa
Rwy’n dal yn gallu cofio fy misoedd cyntaf pan wnes i ymuno â’r busnes (Trenau Arriva Cymru bryd hynny). Roeddwn i wedi graddio o'r brifysgol ychydig fisoedd yn gynharach ac er fy mod i wedi cael rhyw fath o swydd ers i mi fod yn 14 oed, roeddwn i'n dal i addasu i weithio’n llawnamser. Wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n gweld menyw ifanc swil, fewnblyg, a oedd yn ceisio arfer â diwydiant a oedd, i bob pwrpas, yn ddieithr imi.
Chwe mis ar ôl i mi ddechrau yn fy rôl yn yr adran Cysylltiadau Cwsmeriaid, cefais drobwynt. Roedd teithiwr agored i niwed a oedd angen cymorth wedi cael ei gadael ymhell o bobman, gyda dim ond fi ar ben arall y ffôn i helpu. Rwy’n dal yn gallu cofio mynd ati’n wyllt i ffonio ein Canolfan Reoli a Rheolwyr yr Orsaf i gael ateb i’r sefyllfa. Pan oedd y teithiwr yn ddiogel ac ar y ffordd i’w chyrchfan, roedd fel petai fflam wedi cynnau ynof fi ar ôl gweld y timau’n cydweithio i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y cwsmer. Roedd y fflam yn dal i losgi am weddill fy nghyfnod ym maes Cysylltiadau Cwsmeriaid, pan symudais i’r tîm Iechyd a Diogelwch ac mae’n parhau i losgi yn fy rôl newydd yn y tîm Masnachol.
Gweithio i TrC
Yn ddiweddar, cefais sgwrs wych gyda chydweithiwr a oedd yn fy holi am fy mhrofiad o ddatblygu ymhellach a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Roeddwn i’n gwybod beth oedd fy ateb heb feddwl, sy’n beth da. Rwyf wedi cymryd rhan mewn rhaglenni Arweinyddiaeth drwy’r busnes, ac rwy’n dal i weithio fy ffordd drwy fy nghwrs ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth), mae gen i rwydwaith o gymheiriaid cryf ac ysbrydoledig yn y diwydiant a thair menyw wych yn uwch fentoriaid i mi. Yna, dechreuais feddwl am fy ymateb. Faint o hynny oedd o ganlyniad i’m hawydd i o fod eisiau llwyddo a faint o hynny oedd o ganlyniad i’r busnes yn buddsoddi ynof fi? Rwy’n credu na fyddai un yn bodoli heb y llall. Heb gyfleoedd, byddwn wedi cael trafferth cyrraedd lle rwyf i heddiw. Ond, mae cyfleoedd yn cael eu gwastraffu os nad ydy doniau’n cael eu cydnabod a’u meithrin.
Pan oeddwn i ffwrdd ar fy absenoldeb mamolaeth, daeth swydd wag ar gael, ac roeddwn i’n credu ei bod swydd yn berffaith i mi. Yn anffodus, doedd gen i ddim yr hyder i fynd amdani. Roedd arna i ofn nad oeddwn i’n ymgeisydd posib oherwydd doeddwn i ddim yn mynd yn ôl i’r busnes am ychydig fisoedd eto. Mewn diwydiannau eraill, efallai y byddwn i wedi colli fy nghyfle ac y byddai’n rhaid i mi aros ychydig o flynyddoedd eto nes byddai rhywbeth yr un mor addas yn codi, gan arwain at fod yn fam yn dal fy ngyrfa yn ôl. Fodd bynnag, oherwydd y newid parhaus a’r twf enfawr y mae’r busnes wedi’i wynebu dros y blynyddoedd, yn fuan iawn ar ôl i mi ddychwelyd i’r gwaith, daeth rôl gyffrous ond heriol yn wag, a dyna lle rwyf i heddiw.
Mae’r busnes, yn ei holl ffurfiau dros yr 11 mlynedd diwethaf, wedi cymryd llawer o gamau cadarnhaol er gwell yn fy mhrofiad i. Yn ystod fy mlynyddoedd cynnar yn y diwydiant, roedd sylwadau rhywiaethol neu yn erbyn menywod yn cael eu gwneud yn aml, gyda ‘Rwyt ti’n gwybod mai jocian ydw i?’ yn dilyn hynny, a fyddai hynny ddim yn cael ei dderbyn y dyddiau hyn. O’r gwaith sydd wedi cael ei wneud a’r camau mae’r busnes wedi’u cymryd, rwy’n hapus y byddai menywod sy’n newydd i’r busnes, neu sy’n dychwelyd i’r busnes, yn cael profiad gwahanol iawn o gael eu grymuso i roi gwybod am ymddygiad annerbyniol, i gael cyfleoedd newydd ac amrywiol heb i fywyd y tu allan i’r gwaith gael effaith niweidiol ar hynny.
Pe bawn i’n gallu cael gair â fi fy hun pan oeddwn yn iau a rhannu gwybodaeth am ganfod fy ffordd a ffynnu yn y diwydiant, byddwn i’n dweud mai gwybodaeth fyddai’n fy ngrymuso. Wrth gwrs, bydd heriau a byddaf yn treulio llawer o amser y tu hwnt i fy ffiniau cyfforddus, ond mae fy hyder yn dod o wybod fy nghrefft. Byddwn yn ychwanegu bod dod o hyd i grŵp o fenywod neu gymheiriaid ar draws y busnes y gallwn fod yn agored â nhw i rannu syniadau heb ofni beirniadaeth yn amhrisiadwy. Yn olaf, byddwn i’n dweud wrthyf fy hun am chwilio am fentoriaid rwy’n eu hedmygu ac yn dysgu ganddyn nhw. Dim dynwared eu hymddygiad na’u nodweddion sy’n bwysig ond defnyddio eu profiad i’m helpu i ganfod pwy ydw i go iawn. Gobeithio, ymhen amser, y byddaf innau’n gallu helpu drwy gefnogi menywod a lleiafrifoedd wrth iddyn nhw hefyd ddechrau neu barhau i ddysgu a ffynnu yn TrC.